Arestio dau ddyn ar ôl darganfod canabis ym Mhlas Glynllifon yng Ngwynedd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i ganabis gael ei ddarganfod ym Mhlas Glynllifon yng Ngwynedd ym mis Ebrill.
Ar 7 Ebrill eleni, fe gafodd "tyfiant canabis sylweddol" ei ddarganfod yn y plasdy.
Cafodd planhigion eu darganfod mewn 12 o ystafelloedd yn yr adeilad.
Mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw wedi arestio dau ddyn ers dod o hyd i'r canabis ar y safle.
Fe gafodd dyn 70 oed ei arestio ar amheuaeth o ganiatáu i safle gael ei ddefnyddio i gyflenwi canabis.
Mae wedi'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Mae dyn 38 oed hefyd wedi’i arestio ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi canabis. Mae wedi'i ryddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae Plas Glynllifon wedi bod yn nwylo nifer o ddatblygwyr sydd wedi ceisio adfer yr adeilad dros y blynyddoedd.
Cafodd ei brynu gan Paul a Rowena Williams yn 2016 gyda'r gobaith o droi'r plasdy yn westy moethus, ond fe aeth y busnes hwnnw i'r wal yn 2020.