Arestio 11 o bobl am 'amryw o droseddau' mewn protestiadau yn Llundain
Mae o leiaf 11 o bobl wedi cael eu harestio am "amryw o droseddau" ym mhrotestiadau Unite the Kingdom a Dydd Nakba yn Llundain ddydd Sadwrn.
Mae degau ar filoedd o brotestwyr wedi dechrau ar orymdaith yng nghanol y ddinas ar gyfer protest United the Kingdom sy'n cael ei threfnu gan Tommy Robinson.
Fe allai mwy na 100,000 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad yn ddiweddarach yn ôl adroddiadau.
Roedd nifer yn chwifio baner yr Undeb ac yn gweddi "rydym ni eisiau Starmer allan", a nifer o brotestwyr hefyd yn gwisgo hetiau 'Make England Great Again (Mega)'.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhwystro 11 o ymgyrchwyr “asgell dde eithafol” tramor rhag dod i’r DU ar gyfer rali dan arweiniad Tommy Robinson.
Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fod trefnwyr protest Unite the Kingdom yn “gwthio casineb a rhaniadau gwleidyddol”.
Mae cannoedd o brotestwyr hefyd yn rhan o orymdaith Dydd Nakba o blaid Palesteina.
Mae Dydd Nakba yn cyfeirio at ddadleoli Palesteiniaid ym 1948, sef o gwmpas yr amser y cafodd Israel ei chreu.
Mae mwy na 4,000 o blismyn ar ddyletswydd yn y ddinas er mwyn delio â'r protestiadau, gyda swyddogion hefyd yn defnyddio dronau, ceffylau a chŵn heddlu a cherbydau arfog.
Bydd technoleg adnabod wynebau hefyd yn cael ei defnyddio am y tro cyntaf mewn protest.
Mae Heddlu'r Met yn dweud mai dyma un o'r ymgyrchoedd heddlu mwyaf arwyddocaol ers blynyddoedd.
Wrth siarad cyn y protestiadau, dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu'r Met, James Harman, y byddai'r ymgyrch plismona yn costio £4.5 miliwn i'r llu.
Yn ogystal â'r protestiadau, mae disgwyl i ddegau ar filoedd o gefnogwyr pêl-droed deithio i Stadiwm Wembley ar gyfer ffeinal Cwpan FA brynhawn Sadwrn rhwng Chelsea a Manchester City.