Arbenigwyr trais domestig i gael eu lleoli mewn dau o heddluoedd Cymru

Khaola Saleem.jpg

Fe fydd arbenigwyr trais domestig yn cael eu lleoli mewn ystafelloedd rheoli ar draws dau lu heddlu yng Nghymru er mwyn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr.

Chwe mis wedi i Lywodraeth y DU gyflwyno eu strategaeth Trais yn erbyn Menywod, fe fydd arbenigwyr trais domestig bellach yn cael eu lleoli yn lluoedd Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu'r Gogledd. 

Cafodd y mesur ei sefydlu er cof am Raneem Oudeh a'i mam Khaola Saleem a gafodd eu llofruddio gan gyn-ŵr Raneem ym mis Awst 2018 er gwaethaf nifer o alwadau 999 i'r heddlu.

Mae lleoli arbenigwyr trais domestig mewn ystafelloedd rheoli 999 yn gobeithio cryfhau ymateb yr heddlu i drais domestig o'r cyswllt cyntaf.

Mae'r arbenigwyr yn goruchwylio sut y mae galwadau yn cael eu hasesu a'u rheoli, gan gynnig cyngor i swyddogion sy'n ymateb i'r galwadau. 

Y gred yw fod tua 3.8 miliwn o bobl wedi profi trais domestig y llynedd, gyda Llywodraeth y DU yn addo cyflwyno 'Cyfraith Raneem' ar draws bob llu heddlu yng Nghymru a Lloegr erbyn 2029.

Mae 17 llu ar draws Cymru a Lloegr bellach wedi cyflwyno'r mesur.

'Mwy na pholisi'

Dywedodd Nour Norris, modryb a chwaer Raneem Oudeh a Khaola Saleem: "Pan y gwnaeth fy chwaer Khaola a fy nith Raneem alw am gymorth, fe ddylen nhw fod wedi cael eu clywed, eu deall a’u hamddiffyn. 

"Yn lle hynny, fe gollodd ein teulu ddau fywyd hardd mewn amgylchiadau na ddylent byth fod wedi digwydd.

"Mae Cyfraith Raneem yn fwy na pholisi. Mae'n waddol sydd wedi’i adeiladu ar gariad at fy chwaer a fy nith, a gan ein bod yn benderfynol na fydd eu lleisiau nhw, a lleisiau holl ddioddefwyr cam-drin domestig, byth yn cael eu hanwybyddu eto."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens: "Rydym yn gwybod bod ffocws arbenigol ar atal cam-drin domestig yn gweithio, ac rwy’n falch bod y dull newydd hwn yn mynd i gael ei gyflwyno ar draws dwy o ardaloedd heddlu Cymru.

“Bydd dioddefwyr cam-drin ledled Gogledd Cymru a Dyfed Powys bellach yn cael y diogelwch mwy y maen nhw yn ei haeddu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.