Arbedion y BBC i daro rhaglenni Radio Cymru, Radio Wales a theledu yng Nghymru

BBC Cymru

Bydd rhai o raglenni presennol y BBC yn dod i ben wrth i doriadau effeithio ar Radio Cymru, Radio Wales a rhaglenni teledu yng Nghymru.

Daw’r newyddion wedi i’r BBC gyhoeddi cynlluniau i arbed £160 miliwn a thorri 550 o swyddi oherwydd pwysau ariannol.

Fel rhan o’r cynlluniau hynny, bydd angen i BBC Cymru Wales dorri £9 miliwn o’i wariant erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2027/28.

Bydd hefyd ostyngiad o tua 50 yn nifer ei weithwyr, gyda rhagor o arbedion i ddilyn yn 2028/29.

Mewn datganiad i’r sector gynhyrchu, dywedodd BBC Cymru Wales y bydd y toriadau’n effeithio ar bob rhan o’u portffolio fideo a sain.

Mae hynny’n cynnwys rhaglenni teledu wedi’u sgriptio a heb eu sgriptio, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Sounds.

Bydd rhai rhaglenni presennol yn dod i ben, a bydd llai o gyfleoedd ar gyfer comisiynau newydd.

Gallai’r gostyngiad mewn comisiynau newydd hefyd effeithio ar gwmnïau cynhyrchu annibynnol sy’n creu cynnwys i’r BBC yng Nghymru.

Nid yw’r BBC wedi datgelu pa raglenni fydd yn dod i ben na sut y bydd y toriadau’n cael eu rhannu rhwng y gwahanol wasanaethau.

Dywedodd y gorfforaeth y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn yr hydref, pan fydd y cynlluniau wedi’u cwblhau.

Dywedodd BBC Cymru Wales eu bod yn datblygu cynlluniau manwl ac y bydd yn ceisio diogelu gwerth ac effaith eu cynnwys ar gynulleidfaoedd.

“Fodd bynnag, mae maint yr her sy’n ein hwynebu yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud toriadau i’n cyllidebau comisiynu,” meddai'r datganiad.

Mae’r £9 miliwn o arbedion yng Nghymru yn rhan o her ehangach i’r BBC arbed cyfanswm o £500 miliwn erbyn 2028/29.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.