‘Annibyniaeth fydd blaenoriaeth Plaid Cymru’ medd Eluned Morgan
Mae Eluned Morgan wedi dweud mai “annibyniaeth fydd blaenoriaeth Plaid Cymru” os ydyn nhw'n ennill grym yn etholiadau'r Senedd, wrth i’r Blaid Lafur lansio ei hymgyrch yn etholiadau’r Senedd ddydd Llun.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru mai ar annibyniaeth y byddai Plaid Cymru yn canolbwyntio arno “o’r diwrnod cyntaf” yn hytrach nag ar flaenoriaethau etholwyr.
“Sut bynnag y byddan nhw’n ei wisgo i fyny, prosiect creiddiol Plaid Cymru yw annibyniaeth a byddan nhw’n dechrau ei gynllunio o’r diwrnod y byddan nhw’n dod i rym,” meddai.
“Pwyllgorau, comisiynau, papurau gwyn, amserlenni, egni gwleidyddol wedi’i dywallt i mewn i’n gwahanu ni, nid cyflawni.
“Os mai eich blaenoriaeth gyntaf yw refferendwm, eich ail flaenoriaeth yw popeth arall.”
Fe wnaeth Plaid Cymru gynnal eu cynhadledd ddiwedd yr wythnos diwethaf, gan ddweud eu bod nhw’n bwriadu sefydlu Comisiwn Cenedlaethol sefydlog i “sbarduno sgwrs genedlaethol am y camau nesaf ar ein taith gyfansoddiadol” o fewn y 100 diwrnod cyntaf os oedden nhw’n ffurfio'r llywodraeth nesaf.
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod "pobl Cymru yn gwybod bod Plaid Cymru yn credu nad yw pethau cystal ag y gallent fod".
"Dyna pam mae mwy a mwy o bobl yn cefnogi'r weledigaeth gadarnhaol rydyn ni'n ei chynnig yn yr etholiad hwn - i fynd i'r afael a rhestrau aros, gwella gofal plant, cryfhau addysg a'r economi, a sefyll dros Gymru," meddai.
"Maen nhw hefyd yn gwybod na fydd refferendwm yn nhymor cyntaf llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru, a bydd y dewis hwnnw bob amser yn y pen draw gyda phobl Cymru.
"I ni, mae credu mewn annibyniaeth a gweithio dros Gymru yn ddwy ochr i'r un geiniog: mae ein gweledigaeth am genedl gryfach a thecach yn gyrru popeth a wnawn.
"Rydyn ni'n rhoi pobl Cymru yn gyntaf. Ni ellir dweud hynny am Lafur, sy'n rhy aml yn rhoi buddiannau'r blaid -a diogelu Keir Starmer - o flaen anghenion ein cymunedau. Nid yw eu tactegau o geisio dychryn pobl (fearmongering) yn gweithio mwyach ac mae pobl Cymru yn barod am newid."
Iechyd meddwl
Ar ôl bod mewn grym yng Nghymru ers cychwyn datganoli yn 1999, mae polau piniwn yn awgrymu y bydd yr etholiad ar 7 Mai yn dalcen caled i'r Blaid Lafur.
Mae’r arolygon diweddaraf yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen, gyda Reform yn ail, a Llafur yn gydradd pumed gyda’r Ceidwadwyr, gyda chyfradd o 10% o’r bleidlais.
Ond dywedodd Eluned Morgan nad oedd Reform na Phlaid Cymru yn cynnig “atebion go iawn” i Gymru.
“Yr hyn rydyn ni’n ei weld o’n cwmpas yng Nghymru, ledled y DU ac o gwmpas y byd, yw gwleidyddiaeth sy’n fwy swnllyd nag y mae’n ddoeth, yn fwy blin nag y mae’n ddefnyddiol,” meddai.
“Mae Reform yn cynnig cynddaredd, ond dim atebion go iawn.
“Mae Plaid yn cynnig sloganau… crafwch yr wyneb ac nid oes cynllun yno.”
Fe wnaeth Eluned Morgan addo “trawsnewid” gofal iechyd meddwl yng Nghymru, petai Llafur yn ennill etholiad y Senedd fis Mai.
“Dyma neges i’n cystadleuwyr yn yr etholiad hwn," meddai.
"Allwch chi ddim datrys amseroedd aros gyda hashtag. Allwch chi ddim tyfu cyflogau ar TikTok. Allwch chi ddim adeiladu ysbyty gyda phwyllgor.
“Mae angen cynllun. Mae angen blaenoriaethau. Mae angen gweithredu. Dyna mae Llafur Cymru yn ei gynnig.”
Fe fydd y blaid yn cynnig gwasanaeth gofal iechyd meddwl fydd ar gael i bawb ar yr un diwrnod, pe byddai ei angen, meddai.
Mae’r blaid Lafur yn dweud mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf i gyflwyno system o’r fath, a fyddai’n “adeiladu” ar lwyddiant gwasanaeth 111 gwasgu 2.
Hefyd ymhlith y polisïau fydd yn cael eu cynnig bydd gosod cap o £2 ar docynnau bws a chyflwyno 100 o lwybrau bws newydd.
Fe fydd bil dŵr glan newydd hefyd yn cael ei gyflwyno, a chynllun i wella mynediad at ysbytai, sydd yn cynnwys teithio cyhoeddus a pharcio.
Bydd y blaid hefyd yn gosod gweledigaeth o wneud Cymru yn annibynnol o safbwynt egni, wrth sicrhau prosiectau egni adnewyddadwy newydd a chreu swyddi newydd.
“Nid yw tegwch heddiw yn golygu amynedd parhaol," meddai.
“Mae’n rhaid i degwch heddiw ddangos cynnydd y gallwch ei weld, cynnydd y gallwch ei fesur, cynnydd y gallwch ei deimlo.
“Dyna’r addewid rwy’n ei wneud heddiw. Dyna’r addewid o bennod newydd i Gymru.”
'Rydym yn flin'
Mewn ymateb, dywedodd Dan Thomas, arweinydd Reform Wales: "Sa i'n gwybod os yw Eluned Morgan neu ei chyd-weithwyr Llafur wedi siarad ag unrhyw bobl Gymreig yn ddiweddar, ond ydym, rydym yn flin.
"Rydym yn flin fod y Gwasanaeth Iechyd ar ei bennau gliniau, yn flin bod ein system addysg yn methu ein plant, yn flin bod ein cyflogau mor isel, ac yn flin bod Llafur wedi achosi'r problemau yma dros y chwarter ganrif ddiwethaf.
"Dyna pam ym mis Mai, fe fydd pobl Cymru yn pleidleisio dros newid gwirioneddol a chefnogi Reform."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda'r prif bleidiau eraill am ymateb.
