'Angen system gryfach a mwy annibynnol ar gyfer cwynion yn y Senedd'

Senedd / Hannah Blythyn

Mae angen system gryfach a mwy annibynnol ar gyfer cwynion y Senedd, meddai un o'i phwyllgorau.

Daw'r galwadau wedi i adroddiad gael ei gyhoeddi yn nodi bod angen newidiadau i'r broses ar gyfer cwyno am fwlio ac aflonyddu rhywiol.

Yn yr adroddiad mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn nodi 20 o argymhellion sydd â’r bwriad o helpu i sicrhau y gallai cwynion gael eu trin yn briodol.

Mae’r pwyllgor yn cydnabod bod "heriau sylweddol" yn wynebu unrhyw un sy'n codi pryderon ynghylch bwlio, aflonyddu neu ymddygiad amhriodol.

Hefyd maen nhw'n pwysleisio bod angen i'r argymhellion sydd wedi cael eu nodi yn yr adroddiad "fynd tu hwnt" i ddigwyddiadau difrifol yn unig.

'Mwy o gefnogaeth'

Dywedodd Hannah Blythyn AS, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd, bod modd cymryd camau "ar unwaith" er mwyn gwella'r broses cwynion.

"Dylai fod dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhriodol, ac mae gwneud hyn yn golygu bod angen cymorth a sancsiynau priodol ar waith," meddai.

"Mae angen i bobl deimlo bod codi pryderon yn werth chweil, a bod eu profiadau – yn enwedig y digwyddiadau bob dydd a allai wneud rhywun yn anghyfforddus – yn cael eu cydnabod, eu deall, a bod camau yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â nhw.

"Yr hyn a glywsom yn gyson drwy gydol yr ymchwiliad hwn oedd yr angen am fwy o gefnogaeth ac annibyniaeth yn y system."

Ymhlith y rhain mae mesurau i gael mwy o annibyniaeth yn y system, gwella arbenigedd a phenodi aelodau lleyg i eistedd ochr yn ochr ag Aelodau o'r Senedd wrth ystyried adroddiadau.

Mae aelodau lleyg wedi cael eu defnyddio gan seneddau eraill i fynd i'r afael â'r problemau sy’n cael eu hachosi gan fod cwynion am Aelodau'n cael eu penderfynu gan eu cyfoedion eu hunain, meddai'r pwyllgor.

Byddai gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad yn "gosod meini prawf dethol clir i wneud y mwyaf o arbenigedd aelodau lleyg – gan flaenoriaethu profiad mewn urddas a pharch, diwylliant y gweithle a thrin cwynion".

“I ymateb i hyn, rydym yn argymell cymryd camau ar unwaith y gellir eu gweithredu i gryfhau annibyniaeth a gwella arbenigedd – gan barhau â gwaith ehangach y Pwyllgor ar sicrhau mecanweithiau cryf ac effeithiol ar gyfer atebolrwydd Aelodau unigol.”

Mae nifer o argymhellion yr adroddiad yn nodi newidiadau hirdymor, ond bod modd cymryd camau ar gyfer newid nawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.