'Angen pennod newydd radical' ar gyfer y Gymraeg dan Lywodraeth Plaid Cymru

Owain Meirion

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod "angen pennod newydd radical" ar gyfer y Gymraeg wrth i weinidog cabinet Llywodraeth Cymru nodi ei blaenoriaethau ddydd Mawrth.

Bydd Anna Brychan AS yn trafod ei blaenoriaethau yn y swydd yn y Senedd yn y prynhawn.

Ar drothwy'r datganiad, mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Owain Meirion, yn dweud bod angen i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru "gymryd hawl pobl Cymru i'r Gymraeg o ddifrif."

Yn eu maniffesto, roedd Plaid Cymru wedi ymrwymo i ymestyn safonau'r Gymraeg i gyrff ac asiantaethau Llywodraeth y DU sy’n gweithredu yng Nghymru, ac i’r sector preifat.

Hefyd, roedden nhw wedi dweud y byddan nhw'n cymryd camau i sicrhau bod gan bob plentyn yr hawl i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Mae Owain Meirion yn pwysleisio bod angen i Anna Brychan ddatgan y "manylion ymarferol" yn ei blaenoriaethau.

“Roedd llywodraethau blaenorol yn ddigon parod â geiriau cynnes, ond yn llai parod i weithredu’r camau angenrheidiol i atal y dirywiad yn sefyllfa’r Gymraeg dros y degawdau diwethaf a sicrhau dyfodol cadarnhaol i’r iaith, tra’n gweithio yn y cefndir gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wanhau gorfodi ein hawliau," meddai.

“Mae’n rhaid i’r gweinidog newydd gyflwyno pennod newydd radical fydd yn cymryd hawl pobl Cymru i'r Gymraeg o ddifrif ac yn cyflawni targedau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd i bobl yn eu cymunedau.

“Edrychwn ymlaen i gydweithio’n adeiladol gyda’r gweinidog newydd i sicrhau mai’r Llywodraeth hon fydd yn troi’r llanw dros y Gymraeg – yn cyflwyno addysg Gymraeg i bawb a’r gweithlu i’w darparu, yn cwblhau’r gwaith o gyflwyno hawliau o dan Fesur y Gymraeg a’u hymestyn ar fyrder i weddill y sector preifat a’u gorfodi’n effeithiol."

'Mynnu newid'

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan gynnwys dynodi ardaloedd lle mae dwysedd y siaradwyr Cymraeg yn uwch na 40%, yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021, gyda'r posibilrwydd o gynnwys cymunedau cyfagos.

Ddydd Sadwrn diwethaf fe gafodd rali ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith ym Mhorthmadog yn galw ar Lywodraeth Cymru i "droi'r llanw ar y Gymraeg".

Roedd tua 200 o bobl yn bresennol ar gae Clwb Pêl-droed Porthmadog, lle cafodd y rali ei chynnal. 

Mewn ymateb i'r rali, anfonodd Anna Brychan lythyr o gefnogaeth at Gymdeithas yr Iaith.

"Dyw'r Gymraeg erioed wedi datblygu drwy ewyllys da yn unig," meddai.

"Mae wedi symud ymlaen oherwydd bod pobl wedi mynnu newid, wedi dal sefydliadau i gyfrif, ac wedi gwrthod derbyn y sefyllfa bresennol.

"Dyna pam mae gwaith Cymdeithas yr Iaith mor bwysig.

"Mae'r gwaith wedi dechrau'n barod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.