Andy Burnham yn canslo ei drefniadau am ddeuddydd wedi marwolaeth ei dad
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Andy Burnham wedi canslo ei amserlen ddydd Llun a Mawrth yn sgil marwolaeth ei dad Roy, a oedd â chlefyd Alzheimer.
Roedd Mr Burnham wedi siarad am ei salwch yn ddiweddar gan nodi nad oedd ei dad yn sylweddoli fod ganddo fab sydd yn Brif Weinidog.
Un o flaenoriaethau Andy Burnham yw diwygio'r gyfundrefn gofal cymdeithasol, ac mae hynny wedi deillio o brofiadau'r teulu wrth ymdrin â'r clefyd.
Roedd Mr Burnham i fod i gynnal digwyddiad ar gyfer arweinwyr busnes yn Rhif 10 brynhawn Llun.
Mewn cyfweliad gyda phapur y Times pan roedd ar fin dod yn brif weinidog fis Gorffennaf, eglurodd Andy Burnham nad oedd ei dad yn sylweddoli ei fod yn paratoi i gamu i mewn i Rif 10.
"Mae hynny'n drist oherwydd byddai'n falch," meddai.
"I fi, mae'n rhywbeth y mae e wedi e gyflawni hefyd.
"Mae'r teulu cyfan wedi cyflawni hyn, er nad yw e'n gwybod hynny."
Mewn araith ar ofal cymdeithasol yn ddiweddarach y mis hwnnw, addawodd Andy Burnham y byddai'n helpu "fy nhad a miliynau yr un fath ag e" gan nodi "anhegwch" y drefn bresennol.
Llun:PA
