Amy Dowden yn dychwelyd i Gaerffili i ddadorchuddio gwaith celf newydd

Lluniau - PA a Cowshed
Amy Dowden Caerffili

Bydd seren Strictly Come Dancing, Amy Dowden, yn dychwelyd i’w thref enedigol, Caerffili, ddydd Sadwrn i ddadorchuddio gwaith celf newydd ym Mharc Dafydd Williams.

Mae Map Tirlun y Dref wedi’i greu o efydd gan yr artist Sebastien Boyesen.

Mae’r map yn cynnwys ffigurau bach sy’n cynrychioli hanes a diwylliant Caerffili, gan gynnwys ffigur sy’n cynrychioli Amy Dowden.

Mae enwau adnabyddus eraill o’r dref, gan gynnwys Aaron Ramsey a Tommy Cooper, hefyd wedi’u cynnwys yn y gwaith celf.

Dywedodd Amy Dowden: “Dwi wrth fy modd yn dod adref i Gaerffili, a dyna groeso hyfryd fydd hwn.

“Mae’n anrhydedd cael fy nghynnwys ar Fap Tirlun y Dref, ochr yn ochr ag unigolion diwylliannol a hanesyddol eraill fel Aaron Ramsey a Tommy Cooper.”

Ychwanegodd: “Ro’n i’n ymweld â Pharc Dafydd Williams yn aml pan o’n i’n ferch fach, ac alla i ddim aros i weld y gwaith sydd wedi'i wneud i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ganolbwynt i'r dref am genedlaethau i ddod.

“Bydd gan Gaerffili le mor arbennig yn fy nghalon am byth.”

'Penderfynol'

Mae’r parc wedi’i ddatblygu dros gyfnod o sawl mis, gyda goleuadau stryd gwell, offer chwarae newydd a mannau eistedd newydd.

Bydd y gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio am 11:00 ddydd Sadwrn, fel rhan o ddiwrnod o weithgareddau rhwng 10:00 a 16:00.

Bydd y diwrnod hefyd yn nodi lansiad llwybr Hynt a Hanes Gwnaed yng Nghaerffili, sef taith rithwir o amgylch y dref sy’n defnyddio cymeriadau o orffennol a phresennol Caerffili.

Bydd ffenestri siopau hefyd yn cael eu haddurno i gynrychioli cymeriadau enwog y dref, gydag wyneb Amy Dowden yn cael lle blaenllaw yn siop flodau Nicola Downie.

Dywedodd Nicola Downie: “Dwi mor gyffrous i fod yn rhan o lwybr Hynt a Hanes Caerffili. Mae'n ffordd wych o ddathlu Caerffili a'r hyn sydd gyda ni i'w gynnig, a hefyd i wella golwg a theimlad y dref ar gyfer ein cwsmeriaid rheolaidd ac ymwelwyr.”

Ychwanegodd: “Pan ffeindiais i allan taw Amy Dowden oedd un o'r cymeriadau dan sylw, ro’n i'n benderfynol taw hi fyddai’r wyneb yn fy siop i.

“Dwi wedi cynllunio trefniant blodau arbennig i groesawu Amy adref.”

Bydd disgyblion ysgol ddawns Shappelle, yr ysgol yr aeth Amy Dowden iddi pan oedd hi’n blentyn, hefyd yn perfformio yn ystod y digwyddiad.

Mae’r digwyddiad am ddim i’r cyhoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.