America yn rhoi'r gorau i ymosod ar ganolfannau ynni Iran - am y tro

Donald Trump

Cyhoeddodd yr Arlywydd Trump ei fod wedi rhoi'r gorau am y tro i ymosod ar ganolfannau ynni Iran, ar ol iddo gynnal trafodaethau "da iawn a cynhyrchiol" i ddod â'r rhyfel i ben. 

Ond mae Iran yn gwadu fod unrhyw drafodaethau wedi eu cynnal.  

Yn ôl Donald Trump, mae e wedi gorchymyn lluoedd America i atal "pob ymosodiad milwrol yn erbyn canolfannau ynni Iran," am y tro  

Mewn neges ar ei gyfrwng Truth Social, dywedodd Arlywydd America y bydd yr oedi yn para am bum niwrnod ac y bydd yr ymateb y tu hwnt i hynny yn ddibynnol "ar lwyddiant y cyfarfodydd a thrafodaethau nesaf." 

Mae Washington a Tehran wedi cynnal trafodaethau " i geisio dod o hyd i atebion cyflawn i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol," yn ôl Mr Trump. 

Ond mae gweinyddiaeth dramor Iran wedi cyhoeddi datganiad yn gwadu hynny'n llwyr. 

"Rydym yn gwadu yr hyn ddywedodd Arlywydd America Donald Trump fod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Unol Daleithiau America a Gweriniaeth Islamaidd Iran."  

Daw'r datblygiadau diweddaraf wedi i'r Arlywydd Trump fygwth dinistrio canolfannau pŵer Iran oni bai fod Llywodraeth Tehran yn rhoi'r gorau i atal llongau a thanceri rhag teithio drwy gulfor Hormuz o fewn deuddydd. Roedd y 48 awr i fod i ddod i ben ddydd Llun. 

Mae'r prisau olew a nwy wedi disgyn yn sylweddol ers cyhoeddiad Donald Trump.

Mae olew crai Brent wedi disgyn 13% i $96 y gasgen. Cododd mynegai can cwmni'r FTSE 0.5% ar ôl disgyn fwy na 2% yn gynharach.

Ac mae prisiau nwy wedi gostwng hefyd o 159c yr uned i 139c.

Yn y cyfamser, mae byddin Israel wedi cyhoeddi eu bod yn disgwyl i'w brwydr yn erbyn Iran a Hezbollah barhau am "sawl wythnos arall" yn Libanus.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.