Aled Siôn Davies yn sicrhau ail fedal aur i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Aled Sion Davies

Mae’r Cymro Aled Siôn Davies wedi ennill ail fedal aur i Gymru yn Gemau'r Gymanwlad, a hynny yn y ddisgen.

Roedd eisoes wedi ennill medalau aur, arian ac efydd yn y Gemau Paralympaidd. Enillodd fedal arian yn y ddisgen yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014, cyn cipio’r aur yn 2022.

Dywedodd bod y fedal aur eleni yn annisgwyl a mae’n rhaid mai “cystadlu dros Gymru” oedd wedi sbarduno y perfformiad.

“Mae’n swreal,” meddai. “Dw i’n dal yn methu coelio fy mod i wedi’i wneud e. 

“Dw i wedi cael blwyddyn mor gythryblus. Dyw fy mherfformiadau i ddim wedi bod yno. 

“Dw i wedi gwneud llawer o newidiadau ac wedi derbyn, mewn ffordd, y byddai’n rhaid i mi gymryd ambell gam yn ôl er mwyn symud ymlaen, gan gadw’r nod hirdymor mewn cof — Los Angeles, wrth gwrs.

“Felly, doeddwn i ddim yn gwybod a fyddwn i’n un o’r prif gystadleuwyr eleni. 

“Roedd cymhwyso’n ddigon anodd. Mae’r gystadleuaeth wedi gwella’n aruthrol ac mae safon a dyfnder y cystadlu’n anhygoel. Fel y gwelsoch chi, mae’r lleill yn fy ngwthio i drwy’r amser.

“Roedd hi’n anodd i mi, felly. Ond dw i’n falch fy mod i wedi rhoi fy mherfformiad gorau o’r flwyddyn pan oedd hynny’n cyfri.

“Ie, mae’n rhaid mai’r ffaith fy mod i wrth fy modd yn cystadlu dros Gymru brydferth.”

Dywedodd mai “hobi” oedd taflu’r ddisgen iddo mewn gwirionedd.

“Dw i ddim ond yn dychwelyd ato bob pedair blynedd,” meddai.

“Ar ôl Birmingham, roedd rhaid i mi gael llawdriniaeth arall ar fy nghlun, felly doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n dychwelyd. Ces i wybod efallai na fyddwn i byth yn gallu troelli eto.

“Dyw hi ddim yn gamp Baralympaidd i mi. Felly dw i wedi treulio blynyddoedd yn troi fy hun yn daflwr maen (shot putter), gyda’r cyfle bach yna i gystadlu yn y ddisgen yng Ngemau’r Gymanwlad bob pedair blynedd. 

“Mae’n anodd dweud na.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.