Airbus yn buddsoddi £150 miliwn yn ei ffatri ym Mrychdyn gan greu 480 o swyddi

Airbus Broughton

Mae cwmni Airbus wedi cyhoeddi buddsoddiad o £150 miliwn er mwyn ehangu ei ffatri yn Sir y Fflint gan greu 480 o swyddi newydd.

Dywedodd y gwneuthurwr awyrennau ddydd Llun y byddai rhan o’r ffatri ar ei safle ym Mrychdyn oedd yn arfer cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau A380, yn cael ei drosi er mwyn cynhyrchu adenydd i awyrennau A321.

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn, yn ôl y cwmni.

Bydd y gwaith yn creu chwe fframwaith cynhyrchu adenydd (jigs), llinell osod offer a gweithdy paentio, gyda 250 o’r swyddi newydd wedi’u lleoli yn y ffatri pan fydd yn agor ar ei newydd wedd.

Bydd cyfanswm o 480 o swyddi “gwerth uchel” yn cael eu creu, gan ychwanegu at y gweithlu o 6,000 sydd eisoes ar y safle.

Mae’r datblygiad yn “adlewyrchu ymrwymiad hir-dymor Airbus i Gymru ac yn atgyfnerthu safle’r DU fel hwb allweddol i’r diwydiant awyrofod,” meddai’r cwmni.

Dywedodd llefarydd ar ran Airbus bod y buddsoddiad yn sicrhau “bod ‘Cartref Adenydd’ Airbus yn barod iawn i gwrdd â gofynion targedau cynhyrchu awyrennau’r dyfodol.”

Dywedodd Jerome Blandin, Pennaeth Adain Airbus: “Dydyn ni ddim yn sôn am gynyddu cynhyrchiant yn unig; rydyn ni’n rhoi’r seilwaith yn ei le i gefnogi hynny. 

“Ledled y byd heddiw, mae awyren o deulu’r A320 yn esgyn neu’n glanio bob dwy eiliad, gydag adenydd sydd wedi’u dylunio a’u hadeiladu yn y DU.

“Mae buddsoddi yn ein capasiti yn cryfhau ein presenoldeb diwydiannol, yn creu swyddi gwerth uchel sy’n cefnogi’r sector awyrofod ehangach yn y DU ac yn sicrhau ein bod yn parhau’n gystadleuol yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn bwysig i swyddi, yn bwysig i’r rhanbarth ac yn bwysig i’n hymdrech fyd-eang i gynyddu cynhyrchiant tuag at gyfradd o 75.”

Mae’r gwaith ar yr adain gyntaf eisoes ar y gweill, gyda disgwyl i bob un o’r fframweithiau cynhyrchu fod yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn.

Llun: Safle Airbus ym Mrychdyn 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.