Actor o Hollywood yn ymuno â Pobol y Cwm

Hans Obma
Hans Obma

Mae'r opera sebon Pobol y Cwm wedi cyhoeddi fod actor o America sydd wedi dysgu Cymraeg yn ymuno â'r gyfres fel cymeriad newydd fydd yn cyrraedd Cwmderi.

Mae Hans Obma yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd America, ond symudodd yn ddiweddarach i fyw yn ninas yr angylion, Los Angeles.

Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn arfer byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Treuliodd haf 2023 yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America fe barhaodd i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.

Mae Hans wedi actio mewn cyfresi fel Better Call Saul, The Vampire Diaries a Narcos: Mexico ac mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C ym mis Ebrill y llynedd dywedodd mai ei "freuddwyd" oedd serennu mewn drama Gymraeg.

Image
Hans gyda chymeriadau Lleucu, Rhys a Matthew o Pobol y Cwm (Llun: Hans Obma)
Hans gyda rhai o actorion Pobol y Cwm.

Wrth siarad ar raglen Heno ar S4C, dywedodd yr actor ei fod yn gyffrous iawn i actio ym mhentref Cwmderi.

"O'n i wedi bod yn gwylio'r sioe trwy'r amser er mwyn gwella fy Nghymraeg," meddai.

"A nawr 'dwi wrth fy modd i fod yn rhan o'r gyfres.

"Dwi wedi dysgu'r iaith, y mwynhau'r diwylliant a nawr mae gen i gymeriad fy hun.

"Mae'r cymeriad yn rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn dod o America, fel bod y gwylwyr ddim yn gofyn 'pam ei fod yn swnio fel'na?' oherwydd fy acen.

"Sa' i moyn dweud llawer am y cymeriad achos dwi eisiau i bobl ddysgu cyfrinachau'r cymeriad."

Er ei fod bellach yn byw yn Los Angeles, roedd Hans wedi gwneud sawl ymdrech i deithio yn ôl i Gymru.

Yn ystod y cyfnod clo fe ddechreuodd ysgrifennu cyfres o'r enw The Question of Service lle'r oedd y prif gymeriad yn siarad Cymraeg.

Mae'r actor yn gallu siarad Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Iseldireg yn rhugl yn ogystal â'r Gymraeg.

Yn y rhan fwyaf o'i waith actio, ef sydd yn chwarae rhan y dihiryn.

Dywedodd ei fod yn cael cyfle i siarad yr ieithoedd mae wedi ei ddysgu yn aml, gan ymarfer a gwella ei sgiliau ieithyddol wrth deithio'r byd.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.