Aaron Ramsey wedi'i benodi'n brif hyfforddwr ar Glwb Pêl-droed Rhydychen

Aaron Ramsey
Aaron Ramsey

Mae cyn-gapten Cymru Aaron Ramsey wedi'i benodi'n brif hyfforddwr ar Glwb Pêl-droed Rhydychen.

Dywedodd Ramsey ei fod yn "fraint ac anrhydedd" cael ei benodi yn ei rôl hyfforddi llawn amser cyntaf ers iddo ymddeol o'r gamp ym mis Ebrill.

“Yn dilyn fy nhrafodaethau gyda’r Clwb, gallaf deimlo’r uchelgais a’r awydd am lwyddiant, sy’n rhoi cyffro mawr i mi am y cyfle hwn," meddai.

“Dyma foment rydw i wedi bod yn paratoi ar ei chyfer dros nifer o flynyddoedd. Rydw i wedi chwarae o dan rai o’r rheolwyr gorau yn y gêm ac wedi profi sawl amgylchedd dan bwysau uchel drwy gydol fy ngyrfa. 

“Rydw i’n deall y cyfrifoldeb sy’n dod gyda’r rôl hon, ac alla i ddim aros i ddechrau, cwrdd â’r chwaraewyr, a chysylltu â’n cefnogwyr wrth i ni ymdrechu i ddod â llwyddiant.”

Dyma fydd y tro cyntaf i Ramsey, 35 oed, gymryd rheolaeth dros dîm ers ei gyfnod fel rheolwr dros dro ar Gaerdydd yn 2025, cyn i'r clwb ddisgyn o'r Bencampwriaeth i Adran Un.

Bydd Rhydychen yn cychwyn y tymor newydd yn Adran Un fis Medi ar ôl cwympo o'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf.

Dywedodd Cadeirydd y clwb, Dusan Bogdanovic: “O’r eiliad y gwnaethom gyfarfod ag Aaron i drafod y cyfle hwn, roeddem yn gwybod bod ei uchelgeisiau a’i awydd i lwyddo yn cyd-fynd â’r rhai sydd gennym ar gyfer y Clwb.

“Roedd y broses yn drylwyr ac yn ystyriol, gan adlewyrchu pwysigrwydd y penderfyniad hwn. Roeddem yn benderfynol o ddod o hyd i arweinydd a all helpu i lunio’r cam nesaf hwn yn ein datblygiad.

“Gwnaeth Aaron argraff ym mhob cam ac rydym yn hyderus mai ef yw’r person cywir i fynd â’r Clwb hwn ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.