Protestio yn erbyn ymweliad y Brenin yng Nghaerdydd
Protestio yn erbyn ymweliad y Brenin yng Nghaerdydd
Mae rhai wedi bod yn protestio yn erbyn ymweliad y Brenin Charles III yng Nghaerdydd ddydd Gwener.
Roedd rhai wedi ymgynnull tu allan i Gastell Caerdydd yn gwrthwynebu ymweliad y Brenin newydd â Chaerdydd, gydag arwyddion megis 'Brenin? Dim Diolch.'
Er hyn, mae miloedd wedi ymgasglu ar hyd y brifddinas, o Eglwys Gadeiriol Llandaf i'r Senedd ym Mae Caerdydd i groesawu ymweliad y Brenin a'r Frenhines Gydweddog.
Fe gafodd protest dawel ei chynnal yn y Castell ddydd Gwener hefyd, a dywedodd un o'r trefnwyr, Bethan Sayed, nad oedd yn "bwriadu trefnu unrhyw beth hyd nes ar ôl y cyfnod yma, ond ar ôl i'r Brenin newydd ddatgan bod e'n mynd i dweud bod 'na Tywysog Cymru newydd yn mynd i gael ei ddatgan heb cal unrhyw fath o drafodaeth gyda pobl Cymru, o'n i'n teimlo fel bod rheidrwydd arno ni i ddod yma heddiw mewn ffordd sydd yn dawel yn dal posteri yn dweud bod ni ishe cal democratiaeth go iawn ac ma hwnna yn meddwl dyfodol heb frenhiniaeth."
Y cyn aelod o Senedd Cymru, Bethan Sayed, oedd un o drefnwyr protest dawel yn erbyn y Brenin Charles III yn ystod ei ymweliad â Chymru ddydd Gwener. pic.twitter.com/1F9NV3PDyJ
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) September 16, 2022
Mae pobl ar draws Cymru wedi bod yn dathlu diwrnod cenedlaethol Owain Glyndŵr heddiw hefyd, gyda dathliadau yn cael eu cynnal yng Nghorwen a Machynlleth.