Newyddion S4C

Ekin-Su yn arwyddo'r cytundeb mwyaf yn hanes Love Island

The Sun 11/08/2022
Ekin Su Davide / Love Island

Mae un o enillwyr Love Island, Ekin-Su Cülcüloğlu, wedi arwyddo'r cytundeb mwyaf yn hanes y gyfres realiti.

Mae Ekin-Su wedi arwyddo cytundeb gwerth dros £1m gyda chwmni ffasiwn Oh Polly ar ôl ennill y sioe gyda Davide Sanclimenti. 

Ar y gyfres eleni, Oh Polly oedd y brand mwyaf poblogaidd ymysg y cystadleuwyr, gyda dros 100 o eitemau yn cael eu gwisgo.

Daeth y gyfres realiti i ben ddydd Llun diwethaf, gyda Gemma Owen, sef merch y cyn bêl-droediwr Michael Owen, a Luca Bish yn ail, Indiyah Pollock a Dami Hope yn drydydd ac fe wnaeth Tasha Ghouri ac Andrew Le Page orffen yn bedwerydd.

Cyhoeddodd ITV yn gynharach eleni mai 2023 fydd y "flwyddyn gariad" wrth iddyn nhw gyhoeddi dwy gyfres newydd o Love Island.

Darllenwch fwy yma

Llun: Love Island

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.