Cymro o Gaerdydd wedi marw yn Tenerife

Mae ffrindiau Cymro fu farw yn Tenerife wedi dweud eu bod yn benderfynol o'i ddychwelyd yn ôl i Gymru er mwyn ei gladdu.
Bu farw Nicholas Desmond o ardal Gabalfa yng Nghaerdydd ar 29 Gorffennaf.
Fe gafodd y gwasanaethau brys ei galw yn dilyn adroddiadau ei fod yn boddi yn y môr, ac fe gafodd ei gludo i dref Adeje er mwyn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach.
Mewn teyrnged, fe gafodd ei ddisgrifio fel rhywun 'oedd wastad yn hapus' a 'bob tro yn barod i helpu unrhyw un.'
Llun teulu