Pencampwriaeth golff yr Open: Cystadleuaeth agored eleni?
Pencampwriaeth golff yr Open: Cystadleuaeth agored eleni?
Bydd pencampwriaeth golff yr Open yn dychwelyd i St Andrews yn Yr Alban ddydd Iau, gan groesawu mawrion y byd golff i gystadlu yn un o gystadlaethau mwyaf y gamp.
Bydd y cwrs byd-enwog yn dathlu carreg filltir arwyddocaol, gan mai eleni fydd y 150fed gwaith i'r bencampwriaeth gael ei chwarae yn St Andrews.
Bydd pencampwr y llynedd, Collin Morikawa, yn gobeithio ailgreu ei lwyddiant eto, ond ar hyn o bryd Rory McIlroy ydy'r ffefryn i ennill y Gwpan Claret nodedig.
'Man geni golff'
Yr Hen Gwrs yn St Andrews ydy'r cwrs golff hynaf yn y byd, a bydd yn cynnal y bencampwriaeth am y 30ain tro eleni.
Mae Garmon Dyfri yn fyfyriwr yn y dref, ac mae'n credu y bydd hi'n benwythnos ac yn bencampwriaeth i'w chofio.
"St Andrews yw man geni golff felly ma' unrhyw gyfle i ddychwelyd i St Andrews yn uchafbwynt i'r chwaraewyr. Mae e'n gwrs eiconig, sbeshial iawn."
Yn sgil y pandemig, cynulledifa gyfyngedig oedd yn cael mynd i wylio'r bencampwriaeth ar gwrs golff yn Sandwich yng Nghaint y llynedd, ond bydd eleni yn dra gwahanol.
Fe fydd yn newid mawr o fywyd cyffredin St Andrews hefyd yn ôl Garmon:
"Ma' nhw'n disgwyl 290,000 o bobl. Fel rywun sy'n byw yn St Andrews yn ystod y flwyddyn fel myfyriwr yno, ryw 25,000-30,000 sydd yno fel arfer felly ma' cael deg gwaith cymaint â hynny yn y dref yn mynd i fod yn dipyn o brofiad."
Er bod Garmon yn credu y bydd hi'n gystadleuaeth agored eleni, mae'n credu y byddai hi'n anodd peidio ffafrio Rory McIlroy i ennill y bencampwriaeth y tro hwn.
"Pe byddwn i'n ddyn betio, Rory McIlroy fyddai'r dyn fyddwn i'n rhoi fy £5 i arno. Mae e mewn form da iawn ar hyn o bryd. Scottie Scheffler hefyd, rhif 1 y byd, mae e wedi yn chware'n dda yn ddiweddar.
"Wrth gwrs, ma' Tiger Woods nôl yn St Andrews, 'di ennill yma yn 2000 ac yn 2005 a dyn dewr iawn fyddai'n betio yn erbyn Tiger Woods."
Llun: The Open