Wcráin: 15 o bobl wedi marw mewn ymosodiad ar fflatiau yn Donetsk

Mae 15 o bobl wedi marw mewn ymosodiad ar floc o fflatiau yn nhref Chasiv Yar yn rhanbarth Donetsk o’r wlad.
Dywedodd llywodraethwr y rhanbarth Pavlo Kyrylenko fod o leiaf 30 o bobl wedi eu dal o dan y rwbel ar ôl i daflegryn o luoedd Rwsia daro’r adeilad.
Yn ôl adroddiadau roedd un ochr yr adeilad wedi ei ddinistrio’n llwyr yn yr ymosodiad ddydd Sul
Mae tref Chasiv Yar ger Kramatorsk yn nwyrain y wlad.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter/Pavlo Kyrylenko