Aled Haydn Jones: 'Dim ond dechrau’r stori oedd y beichiogi'
Aled Haydn Jones: 'Dim ond dechrau’r stori oedd y beichiogi'
Mae pennaeth BBC Radio 1 wedi siarad yn agored am ei brofiad o ddod yn riant drwy IVF.
Ers tair blynedd mae Aled a’i bartner Emile wedi ceisio cyflawni breuddwyd o fod yn rhieni, gyda chymorth yr asiantaeth Surrogacy UK.
Fe wnaeth y ddau brofi sawl siom yn ystod y broses, ond yn ddiweddar cafodd eu mab Luca ei eni drwy fam fenthyg.
Mewn rhaglen ddogfen, DRYCH: Ti, fi a’r babi, bydd Aled ac Emile yn rhannu’r daith o’r amseroedd caled i’r rhai mwyaf cyffrous.
“Ni wedi bod yn trio am fabi gyda’n surrogate, Dawn, am dair blynedd hir” meddai Aled, sy’n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yn Llundain.
“Mae’r broses IVF wedi bod yn un dorcalonnus, llawn troeon trwstan emosiynol ac yn gwneud i ni gwestiynu popeth; a gofyn, ydy ni byth yn mynd i gael teulu’n hunain?"
Mae pob carreg filltir y daith yn cael ei ddogfennu gan y rhaglen- o’r foment mae Aled ac Emile yn darganfod fod Dawn yn feichiog i’r enedigaeth.
Disgifiodd Aled pa mor emesiynol oedd yr holl broses wedi’i Luca gael ei eni: “Ma fel jyst yn anghygol, ‘da ni mor hapus. Fi’n teimlo on top of the world."
Ychwanegodd Aled: “I’r bobl sydd yn dweud mai y sefyllfa berffaith i blentyn yw i gael mam a dad, dyddia yma dyma ydy bywyd. Mae rhieni sengl neu pobl sydd methu cael plant yn bodoli.
“Nappies, dim cysgu, sgrechian- ni’n barod.”
DRYCH: Ti, Fi a’r Fam Fenthyg ar S4C nos Fawrth 28 Mehefin am 21:00.