Newyddion S4C

S4C

Rhyfel Wcráin: Rwsia yn ymosod ar Kyiv unwaith eto

Reuters 06/06/2022

Mae Rwsia wedi ymosod ar brif ddinas Wcráin, Kyiv am y tro cyntaf ers mwy na mis.

Roedd yr ymosodiad diwethaf ar y ddinas ddiwedd mis Ebrill, ac ers hynny roedd bywyd wedi dechrau dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.

Mae Rwsia yn honni ei bod wedi targedu safle storio tanciau a cherbydau arfog eraill a gyflenwir gan ddwyrain Ewrop.

Ond yn ôl Wcráin, roedd y taflegrau wedi taro gwaith atgyweirio trenau lle nad oedd unrhyw danciau yn cael eu cadw yno. 

Mae ymladd trwm yn parhau yn Severodonetsk, dinas ddiwydiannol yn rhanbarth Luhansk yn nwyrain Wcráin.

Mae'r rhan fwyaf o Luhansk bellach dan feddiant Rwsia.   

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Llun: Twitter @ElenaNeroba

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.