Rhybuddion yn erbyn ymgynnull wrth i’r byd gofio’r ‘dewr’ yn Sgwâr Tiananmen ar ôl 33 mlynedd

Ni fydd yr America “yn anghofio 4 Mehefin” yn ôl Ysgrifennydd Gwladol yr UDA, Anthony Blinken.
Daw ei sylwadau 33 mlynedd ar ôl i brotestwyr dros ddemocratiaeth gael eu lladd gan filwyr o Tsiena yn Sgwâr Tiananmen yn Beijing.
Yn y cyfamser mae llywodraeth Hong Kong wedi rhybuddio yn erbyn ymgynnull anghyfreithlon i nodi’r diwrnod.
Mae llywodraeth Tsiena wedi gwahardd cofio’r achlysur yn y wlad ond mae disgwyl i ddigwyddiadau coffa gael eu cynnal yn Taiwan.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit