Castell y Gelli ar agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf

Mae Castell y Gelli yn y Gelli Gandryll ym Mhowys bellach ar agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf.
Daw hyn yn dilyn prosiect adnewyddu gwerth £5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a £2 filiwn gan ffynonellau eraill.
Bydd ymwelwyr yn medru gweld arddangosfa o Bortreadau Awduron trwy gydol yr haf.
Mae’r adnewyddu yn cynnwys atriwm newydd ar gyfer perfformiadau cerddorol a theatrig, sioeau celf a digwyddiadau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Castle Studies Trust