Ble nesaf i Ramsey? Disgwyl i seren Cymru drosglwyddo o Juventus

Aaron Ramsey, carfan Cymru, pêl-droed, Huw Evans
Ddeufis yn unig sydd tan y bydd Aaron Ramsey yn chwarae un o gemau mwyaf tyngedfennol ei yrfa, ond nid oes unrhyw sicrwydd ble fydd Ramsey erbyn hynny.
Ar ddiwedd mis Mawrth, fe fydd Cymru yn herio Awstria yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle i gymhwyso am Gwpan y Byd.
Mae disgwyl y bydd Ramsey yn gadael Juventus cyn diwedd y cyfnod trosglwyddo ar ddiwedd y mis, yn ôl The Mirror.
Mae Ramsey wedi chwarae dros y clwb Eidaleg ers 2019, wedi iddo adael Arsenal.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans