Cynlluniau i greu pentrefi gwyliau ar Ynys Môn

Newyddion S4C 08/04/2021

Cynlluniau i greu pentrefi gwyliau ar Ynys Môn

Mae cynlluniau i greu pentref gwyliau ar Ynys Môn wedi hollti barn yn lleol.

Ers 17 mlynedd, mae safle ffatri gemegol Octel yn Amlwch wedi bod yn wag a nawr mae datblygwyr eisiau creu pentref gwyliau yno. 
 
Mae perchnogion safle Octel eisoes wedi cael trafodaethau anffurfiol gyda swyddogion Cyngor Môn, a'u gobaith yn y pen draw yw cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad. 

Dywed ymgyrchwyr iaith wrth raglen Newyddion S4C fod cynlluniau o'r fath yn "cymryd y gorau" ond yn cynnig dim yn ôl i'r gymuned leol.

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gynlluniau tebyg ar hen safleoedd diwydiannol yr ardal.
 
Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi i gynllun llawer mwy ar dir oedd yn berchen i Alwminiwm Môn ger Caergybi. Ond, mae cwmni Bluestone wedi dweud nad yw'r arian ar gael ar hyn o bryd i fwrw ymlaen gyda'r cynllun.

Yn y cyfamser, mae datblygwr arall eisiau creu pentref gwyliau ar hen safle Friction Dynamics ar lannau'r Fenai ger Caernarfon. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.