Newyddion S4C

Llywodraeth Kazakhstan yn ymddiswyddo yn dilyn protestiadau am brisiau tanwydd

Sky News 05/01/2022
Baner Kazakhstan

Mae llywodraeth Kazakhstan wedi ymddiswyddo yn dilyn protestiadau treisgar am brisiau tanwydd yn y wlad.

Mae arlywydd y wlad wedi derbyn yr ymddiswyddiad yn dilyn y protestiadau yn Almaty, dinas fwya’r wlad.

Aeth y protestiadau ymlaen am oriau a chyhoeddwyd stad o argyfwng gan gynnwys cyfyngiadau ar symudiadau a gwahardd pobl i ymgasglu.

Mae’r protestiadau yn dilyn codi’r uchafswm ar brisiau nwy, a arweiniodd at brisiau uchel yn y wlad.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.