Un o sêr clwb pêl droed Abertawe yn hyfforddi ar ôl gorfod ymddeol yn gynnar 

Mail Online 02/01/2022

Mae Michu, un o chwaraewyr mwyaf disglair a thalentog Abertawe yn yr uwch gynghrair nawr yn hyfforddi yn Sbaen ar ôl gorfod ymddeol yn 31 oed.

Ymunodd Miguel Perez Cuesta (Michu) ag Abertawe am £2 filiwn o Rayo Vallecano yn 2012.

Sgoriodd goliau cofiadwy iawn mewn cyfanswm o 22 gôl yn ei dymor cyntaf gydag Abertawe ac enillodd un cap rhyngwladol dros Sbaen.

Dim ond dwy gôl sgoriodd yn ei ail dymor gyda’r clwb ac ar ôl dioddef anaf i’w bigwrn, gadawodd y clwb ac yna ymddeol yn 31 oed.

Darllenwch y stori yn llawn yma.