Bocsiwr o Fangor yn ddieuog o lofruddio ar ôl lladd dyn gydag un ergyd

Mae bocsiwr o Fangor wedi ei ganfod yn ddieuog o lofruddio dyn gydag un ergyd.
Roedd Brandon Luke Sillence, 25 oed, wedi pledio’n euog o ddynladdiad yn erbyn Dean Harry Skillin, 20 oed, ar ôl ei daro tu allan i westy’r Waverley ym Mangor ym mis Medi 2020.
Bydd Sillence yn cael ei ddedfrydu yn Llys Y Goron, Caernarfon ddydd Gwener am ddynladdiad ac am ymosod ar Taylor Lock, cefnder Mr Skillin.
Ar ôl trafod am ychydig dros bum awr, dychwelodd y rheithgor reithfarn nad oedd Sillence yn euog o lofruddiaeth.
Darllenwch y stori’n llawn yma.