Teyrngedau i un o sylfaenwyr ac aelod ‘ymroddgar’ Merched y Wawr

14/12/2021
sylwen davies

Mae Merched y Wawr wedi rhoi teyrnged i un o sylfaenwyr ac aelod ‘ymroddgar’ y mudiad, Sylwen Lloyd Davies - sydd wedi marw yn 88 mlwydd oed.

Roedd hi’n un o aelodau gwreiddiol y mudiad wedi i gangen y Parc ger y Bala dorri i ffwrdd o Sefydliad y Merched yn 1967.

Ar ôl i’r sylweddoli mai Saesneg oedd iaith y sefydliad ac nad oedd modd iddynt dderbyn gwaith papur yn y Gymraeg fe aeth yr aelodau ymlaen i sefydlu cangen Gymraeg eu hunain.

Yn ddiweddarach cafodd Mrs Davies ei gwneud yn Llywydd Anrhydeddus ar y mudiad yn 2009.

‘Cyfraniad eithriadol’

Mae mudiad Merched y Wawr wedi diolch i Mrs Davies am ei “chyfraniad eithriadol” dros y blynyddoedd.

Dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Genedlaethol y mudiad wrth Newyddion S4C fod ei “chyfraniad wedi bod yn aruthrol”.

“Roedd hi mor ymroddgar ar hyd y blynyddoedd, ac wedi bod yn aelod gwbl ddi-dor.

“Roedd hi wastad yn ddireidus iawn, ac yn berfformwraig a siaradwraig gyhoeddus talentog."

Image
sylwen davies
Sylwen Davies (chwith) a Olwen Davies yn dysgu sut i drin car yng nghangen y Parc. 

Yn weithgar ar hyd y blynyddoedd, roedd yn Llywydd Cenedlaethol ym 1998-2000 lle dreuliodd amser fel llysgennad i’r mudiad ar deithiau i Lesotho, Sempringham a Chymru ben baladr.

Dywed Tegwen: “Fe dreuliodd amser gwych yn Lesotho, gan fynychu priodas i fab y Brenin yn y flwyddyn 2000.”

Ymhen diwrnod, meddai Tegwen, yr oedd yn agoriad swyddogol Canolfan Cenedlaethol Merched y Wawr.

Image
sylwen
Sylwen Davies (chwith) tu allan i Ganolfan Cenedlaethol Merched y Wawr. 

Ychwanegodd Tegwen ei bod wedi mwynhau sawl stori gan Mrs Davies dros y blynyddoedd.

“Roedd ganddi sawl stori dda o’i phrofiadau fel gwraig i ffermwr, ac fel gwraig fferm ddibrofiad roedd hi yn ddiolchgar iawn i’w chymuned am yr holl gefnogaeth y cafodd dros y blynyddoedd.”

Yn weddw i’r diweddar Bryn Davies, magwyd y ddau ohonynt wyth o blant gyda’i gilydd dros y blynyddoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.