Danny Miller yw enillydd 'I'm A Celebrity 2021'

Danny Miller sydd wedi dod i'r brig wedi iddo guro Frankie Bridge a Simon Gregson yn rownd derfynol cyfres 'I'm A Celebrity 2021'.
Ar ôl tair wythnos o'r sioe, pan gafodd rhan o'r safle ei dryllio gan Storm Arwen, roedd y rownd derfynol nos Sul.
Cafodd Danny ei goroni'n Frenin y Castell gyda Simon yn dod yn ail a Frankie yn drydydd.
Cafodd y rhaglen ei ffilmio yng Nghastell Gwrych, Abergele am yr eildro gan nad oedd y sioe yn gallu dychwelyd i Awstralia oherwydd y pandemig.
Mae Danny Miller wedi addo treulio "gweddill ei fywyd" gyda'i fab bach newydd-anedig.
Penderfynodd seren Emmerdale ymuno â sioe ITV dim ond tair wythnos ar ôl iddo ef a'i ddyweddi, Steph, gael mab, Albert.
Darllenwch y stori'n llawn yma.