Carcharu dyn am anfon pecyn amheus i ffatri frechlynnau yn Wrecsam

Golwg 360 24/11/2021

Mae dyn wedi ei garcharu ar ôl anfon pecyn amheus i ffatri oedd yn cynhyrchu brechlyn Covid-19 yn Wrecsam ym mis Ionawr eleni. 

Mae Anthony Collins, 54, o Gaint wedi derbyn 27 mis o garchar. 

Roedd gweithwyr y ffatri frechlyn Oxford-AstraZeneca wedi pryderu mai bom oedd cynnwys y pecyn.  

Bu'n rhaid gwagio cyfanswm o 120 o bobl o'r ffatri ar 27 Ionawr, a bu'n rhaid stopio cynhyrchu'r brechlyn am gyfnod. 

Image
S4C
Bu’n rhaid ffrwydro’r pecyn yn ddiogel er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd yn cynnwys deunyddiau ffrwydrol. Llun: Twitter/@PaulSalisbury15

Clywodd y llys ddydd Mercher bod Collins hefyd wedi anfon parseli tebyg i 10 Downing Street a labordy yn Wuhan yn China.

Yn ôl y Golwg360, dywedodd y barnwr bod Collins wedi datblygu “diddordeb obsesiynol” gyda’r feirws a’r brechlynnau. 

Fe wnaeth Collins fynnu fod cynnwys y pecyn i fod i helpu gwyddonwyr ar safle Wockhardt yn Wrecsam, ond dywedodd y barnwr fod hynny’n “blentynnaidd”.

Darllenwch y stori’n llawn yma.