Llofruddiaeth Sarah Everard: Dedfryd gydol oes i Wayne Couzens

Mae cyn-heddwas wedi derbyn dedfryd gydol oes am herwgipio, treisio a llofruddio Sarah Everard.
Dywedodd y barnwr, yr Arglwydd Ustus Fulford, bod llofruddiaeth Ms Everard yn “drasig”, ac wedi digwydd mewn “amgylchiadau anwaraidd”.
Fe glywodd y llys ddydd Mercher bod Wayne Couzens, 48, wedi defnyddio ei gerdyn gwarant Heddlu’r Met a chyffion dwylo i gipio’r fenyw 33 oed yn ne Llundain ar 3 Mawrth.
Fe gafodd ei chorff ei ddarganfod mewn coetir yng Nghaint wythnos yn ddiweddarach.
Dywedodd yr Arglwydd Ustus Fulford ddydd Iau bod Couzens wedi cyflawni trosedd “hunanol a chreulon oedd yn rhywiol a ddynladdol”.
Ychwanegodd y barnwr bod adegau olaf bywyd Sarah Everard mor “llwm a phoenus ag y mae’n bosibl dychmygu”.
Fe wnaeth teulu Ms Everard annerch Couzens yn y llys ddydd Mercher, gan ei ddisgrifio fel “bwystfil”.
Ond yn ôl cyfreithiwr y diffynnydd, nid oedd Couzens yn gallu edrych ar deulu Ms Everard.
Darllenwch y stori’n llawn yma.