Cymru'n cloi Pencampwriaeth y Cenhedloedd â buddugoliaeth dros Japan
Mae tîm rygbi Cymru wedi selio'r nawfed safle ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd gyda buddugoliaeth o 40-10 dros Japan.
Roedd yr hyfforddwr Steve Tandy wedi dewis tîm cryf ar gyfer y gêm, oedd yn cael ei chynnal yn Twickenham fel gweddill gemau penwythnos olaf y gystadleuaeth, sy'n digwydd am y tro cyntaf eleni.
Gyda phedwar cais yn yr hanner cyntaf - dau i Josh Adams ac un yr un i Blair Murray a Reuben Morgan-Williams - roedd Cymru 26-0 ar y blaen ar yr egwyl.
Sgoriodd yr eilydd Jac Morgan ddau arall i adeiladu mantais gref yn yr ail hanner, cyn i Japan, oedd wedi rhoi pwysau ar amddiffyn Cymru drwy gydol yr ornest, sgorio dau gais hwyr wrth i berfformiad y Cymry ddechrau gwanio yn chwarter olaf y gêm.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru wedi hawlio pedair buddugoliaeth drwy gydol y bencampwriaeth - gan gynnwys y fuddugoliaeth gyntaf dros Seland Newydd ers 1953 - a cholli tair gêm arall.
Fe fydd golygon y tîm rheoli yn troi nawr at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, sy'n cychwyn ym mis Chwefror.
Llun: Huw Evans