'Angen bod yn glir gyda chymunedau' wrth ddatblygu seilwaith yng Nghymru

Newyddion S4C
Canolfan Ddata y Fenai a Dr Baxter

Mae angen “bod yn glir gyda chymunedau” wrth ddatblygu seilwaith yng Nghymru gyda gofynion cynyddol AI a thwf canolfannau data, yn ôl Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Ers misoedd erbyn hyn mae datblygu canolfannau data wedi bod yn bwnc dadleuol ar draws y wlad.

Mewn cyfarfod cyhoeddus ger Caernarfon nos Iau roedd cyfle eto i bobl ddod at ei gilydd i leisio barn am gynlluniau i adeiladu canolfan ddata newydd ar lannau'r Fenai.

Bwriad y cwmni datblygu ydi codi canolfan fyddai'n ymestyn dros 41 hectar rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Yn ôl y datblygwyr, byddai'n arwain at dua 900 o swyddi yn y cyfnod adeiladu a 200 yn barhaol.

Mae dros 25,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cynllun gan ddweud y byddai’n dinistrio golygfeydd ac nad yw’r safle'n addas.

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd mae canolfannau data yn defnyddio llai na 0.2% o gyflenwad trydan blynyddol y wlad, ond mae’n debygol y bydd hyn yn cynyddu gyda’r twf mewn canolfannau data.

Wrth i’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol droi eu sylw at ganolfannau data yng Nghymru dros y misoedd nesaf, maen nhw am ystyried beth mae twf cyflym mewn AI yn ei olygu i Gymru a’r cyfyngiadau sy’n bodoli o gwmpas sefydlu canolfannau data.

Image
Dr Baxter
Dr Jenifer Baxter, Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Yn ôl Dr Jenifer Baxter, Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, mae pa mor barod ydi ardaloedd o ran eu hisadeiledd yn amrywio.

“Pan rydan ni’n meddwl am sefydlu canolfannau data, ma’n rhaid i ni gofio fod gan wahanol ardaloedd yng Nghymru wahanol allu i gynnal canolfan ddata, gall hynny fod o ran ynni, tir, dŵr,” meddai.

Mae’r Comisiwn am bwysleisio’r pwysigrwydd i gysylltu gyda’r bobl fydd yn cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y datblygiadau.

“Mi rydan ni am geisio deall sut mae cymunedau a busnesau yn gallu elwa, a sut mae’n effeithio natur a bioamrywiaeth er mwyn sicrhau bod penderfyniadau ar ganolfannau data yn cael eu gwneud yn effeithiol," meddai Dr Baxter. 

“Mae’n hanfodol bod cymunedau yn ymgysylltu yn gynnar yn y broses. Mae’r tebygoliaeth y bydd cymuned yn fwy o blaid unrhyw seilwaith newydd yn uwch pan fyddan nhw ar draws y cynlluniau a sut gallan nhw fanteisio boed hynny drwy swyddi, cyfleoedd i fusnesau neu ddatblygu sgiliau. ”   

'Sawl peth i ystyried'

Yn ôl Dr Eurgain Powell sy’n rhan o’r comisiwn mae’n bwysig bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud.

“Mae’r dechnoleg o gwmpas deallusrwydd artiffisial a chanolfannau data yn datblygu yn gyflym iawn. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n deall sut i wneud penderfyniadau cywir o ran ble mae’r canolfannau yn mynd a’r effaith maen nhw’n mynd i gael o ran y gymuned a’r amgylchedd," meddai.

“Ni 'di clywed tipyn am yr effaith amgylcheddol o ran yr ynni a’r dŵr maen nhw’n ei ddefnyddio. Dwi’n credu eto fod y dechnoleg yn datblygu’n gyflym iawn felly maen nhw’n dod yn fwy effeithlon o ran y dŵr maen nhw’n ddefnyddio. 

Ychwanegodd: "Ond o ran yr ynni dwi’n gwbod fod capasiti y grid yng Nghymru yn mynd i fod yn broblem felly mae sawl peth i ystyried."

Image
Cyfarfod
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ger Caernarfon nos Iau i bobl ddod at ei gilydd i leisio barn am gynlluniau i adeiladu canolfan ddata newydd ar lannau'r Fenai.

Ym mis Ionawr, bydd CSCC yn rhoi cyngor annibynnol i Adam Price AS, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, ar opsiynau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ble gallai datblygiad fod yn briodol, a sut y gall Cymru elwa ar y cyfleoedd wrth reoli effeithiau posib. 

Yn gynharach ym mis Tachwedd daeth cyhoeddiad y bydd penderfyniad ar gais tebyg yn y brifddinas yn mynd i ddwylo’r Llywodraeth yn hytrach na’r awdurdod lleol. 

Mae yna wrthwynebiad hefyd wedi bod i gynlluniau i adeiladu canolfan ar lan y Fenai.

Fis diwetha' roedd cannoedd o bobl wedi casglu yng Nghaernarfon yn erbyn cynlluniau i godi canolfan fyddai’n ymestyn dros 41 hectar rhwng Caernarfon a’r Felinheli ar safle’r hen ffatri Friction Dynamics.

Nos Iau, ym Mhlas Menai ger Cernarfon roedd 'na gyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan Fforwm Partneriaeth Afon Menai, a chyfle i bobl rannu barn.

'Pryderus iawn'

Mae Iona Watkin Jones yn byw ger y safle ac yn un o'r nifer sydd yn poeni am y cynlluniau.

“Da ni’n bryderus iawn am yr effaith ar bobl leol. Dwi’n gweld cannoedd o blant sydd yn canŵio a nofio yn y Fenai, heb son am y twrw ac edrychiad y lle a’r effaith ar yr ardal hyfryd yma," meddai.

Wedi byw yn yr ardal ers bron i 70 o flynyddoedd, mae gan Rhian Ackers dir fferm gyferbyn â’r safle.

“Dwi’n sicr ddim isio gweld rhywbeth fel hyn yn digwydd. Fysa ni ddim yn gweld drosodd i Sir Fôn," meddai.

Yn berchen ar feithrinfa leol, mae Rhian yn poeni am yr effaith ar y genhedlaeth nesaf.

“Mae’n gwneud i chi feddwl am y plant bach sydd yna trwy’r dydd, bob dydd, da chi ddim yn gwybod be fydd yr effaith yn mynd i fod ar eu hiechyd nhw," meddai.

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb ond mae’r datblygwyr, Gwelyfenai, eisoes wedi dweud y byddai'r prosiect yn "trawsnewid ac yn adfywio ffatri Ferodo - sydd wedi bod yn adfeiliedig ers amser maith - a'r tir cyfagos, gan gynnwys hen safle tirlenwi a thir halogedig, a dod â'r ardal yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol".

 Mae'r cwmni'n dweud y byddai'r cynllun yn "sicrhau dyfodol y safle fel canolbwynt pwysig ar gyfer diwydiant ac arloesedd" a fyddai'n helpu i "wella gwasanaethau digidol sy'n rhan annatod o fywyd modern".

 Dywedodd y byddai'r ganolfan yn cael ei rheoli mewn ffordd gynaliadwy ac yn cael ei phweru'n rhannol gan ffynonellau adnewyddadwy lleol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.