Dedfrydu dyn ifanc o Gaerdydd wedi i fachgen 17 oed golli ei goes yn dilyn ymosodiad â chyllell
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd a hanner mewn canolfan i droseddwyr ifanc wedi i fachgen 17 oed golli ei goes yn dilyn ymosodiad â chyllell ar Ynys y Barri.
Fe wnaeth Idris Ahmed, 19 oed o ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd, bledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol bwriadol ac o fod ag eitem â llafn yn ei feddiant yn ystod ei achos llys yn gynharach y mis hwn, wedi iddo wadu'r cyhuddiadau yn wreiddiol.
Cafodd ei ddedfrydu i gyfnod o 10 mlynedd a hanner mewn canolfan i droseddwyr ifanc yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Ynys y Barri tua 17:30 ddydd Llun, 25 Mai, yn ystod penwythnos gŵyl y banc.
Roedd bachgen 17 oed wedi cael ei drywanu ac wedi dioddef anaf difrifol i'w goes.
Bu'n rhaid torri coes y bachgen i ffwrdd o ganlyniad i'w anafiadau, a derbyniodd driniaeth mewn uned gofal critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Cafodd Ahmed ei arestio ar ddiwrnod y digwyddiad, ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i'r gyllell.
Clywodd y llys fod gan Ahmed drafferthion gydag un o ffrindiau'r dioddefwr, a bod y bachgen 17 oed wedi ceisio tawelu'r tensiwn rhwng y ddau grŵp.
'Canlyniadau dinistriol'
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Thomas Hurley o Heddlu De Cymru: "Ar ddydd Llun gŵyl y banc ym mis Mai 2026, roedd bachgen 17 oed yn mwynhau diwrnod allan gyda'i ffrindiau pan gafodd ei drywanu.
"Roedd maint a difrifoldeb yr anaf a ddioddefodd yn gwbl ddinistriol. Allwn ni ddim dychmygu sut mae ei fywyd wedi newid, yn gorfforol ac yn feddyliol.
"Oherwydd y dystiolaeth gref a gasglwyd gan Heddlu De Cymru ac a gyflwynwyd gan yr erlyniad, plediodd Idris Ahmed o Lan yr Afon yn euog ar ail ddiwrnod yr achos llys.
"Er na all unrhyw ddedfryd o garchar ddadwneud yn llwyr y niwed sydd wedi ei achosi, rydym yn croesawu'r ddedfryd.
"Mae ein meddyliau gyda'r dioddefwr, sy'n ddyn ifanc dewr, a'i deulu wrth iddyn nhw barhau i ddod dros y profiad erchyll hwn."