'Byddi di wastad yn arwr i ni': Teyrnged i nain a fu farw wrth achub bywyd ei hŵyr
Mae teulu nain a fu farw ar ôl cael ei tharo gan lori yn dweud ei bod wedi achub bywyd ei hŵyr ac y bydd hi “bob amser yn arwr i ni”.
Roedd Barbara Barganska, 62, oed gyda'i hŵyr ddwyflwydd oed yn Trowbridge yn ne-orllewin Lloegr pan y gwnaeth hi ddioddef anafiadau angheuol ychydig wedi 10:00 ddydd Llun.
Ni wnaeth y bachgen bach ddioddef unrhyw anafiadau difrifol.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod gyrrwr y lori, dyn 58 oed o Gaerdydd, wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn ddiofal a bellach wedi ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Ychwanegodd y llu fod Ms Barganska yn cerdded pan y gwnaeth y lori wrthdaro â hi mewn goleuadau traffig ar Stryd Stallard yn y dref.
Mewn teyrnged, fe ddisgrifiodd ei theulu “weithred eithriadol o ddewrder” y nain wrth achub bywyd ei hŵyr.
"Mae ein calonnau wedi eu torri yn gorfod ysgrifennu'r deyrnged hon. Roedd Barbara, a fu farw yn Trowbridge ar 23 Tachwedd 2026, yn nain annwyl i'n mab," meddai'r teulu.
"Roedd hi mor ofalgar, ac yn barod i wneud unrhyw beth dros unrhyw un. Mae ei cholli yn gadael bwlch yn ein teulu na all neb arall ei lenwi.
Ychwanegodd y teulu: "Fe wnes di achub bywyd dy ŵyr, ac ni fyddwn ni byth yn cael y cyfle i ddiolch i ti am y weithred eithriadol yna o ddewrder, ond byddwn yn sicrhau ei fod yn gwybod pa mor ddwfn oedd dy gariad ato. Byddi di wastad yn arwr i ni.
"Dydych chi byth yn gwybod pa bryd fydd y tro olaf i chi ddweud wrth rywun eich bod chi'n eu caru. Fe fyddi di yn ein calonnau a’n meddyliau am byth."