Cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o'r ffliw yng Nghymru

ffliw

Mae nifer yr achosion o'r ffliw yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol, gyda thraean o’r holl achosion o’r ffliw sydd wedi’u cadarnhau ers diwedd mis Medi wedi eu cofnodi mewn un wythnos.

Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd 399 o achosion o’r ffliw eu cadarnhau yn yr wythnos hyd at 22 Tachwedd, allan o gyfanswm o 1,197 ers 28 Medi. 

Mae disgwyl hefyd i nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai yng Nghymru gyda’r ffliw gynyddu dros y pythefnos nesaf.

Daw'r ffigyrau wrth i Dr Suzanna McDonald, sy’n arwain rhaglen y ffliw yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), rybuddio ei bod hi’n “gynnar iawn” i weld cymaint o alw ar ysbytai oherwydd y ffliw.

Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd fod cyfradd y derbyniadau i ysbytai yn Lloegr gyda’r ffliw wedi codi 80% mewn wythnos, o 5 i 9 am bob 100,000 o bobl.

Dywedodd fod y cynnydd sydyn wedi dod ychydig wythnosau’n gynharach na’r llynedd. Roedd tymor y ffliw y llynedd wedi dechrau’n gynharach nag ar unrhyw adeg ers dros 20 mlynedd, meddai.

Anogodd bawb sy’n gymwys i gael y brechlyn cyn gynted â phosib.

Dechrau cynnar i dymor y ffliw yng Nghymru

Yng Nghymru, mae cyfran y samplau oedd yn bositif am ffliw math A wedi mwy na dyblu mewn wythnos mewn meddygfeydd a fferyllfeydd sy’n rhan o rwydwaith monitro Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cododd y gyfran o 8.6% i 20%.

Ymhlith cleifion mewn ysbytai a meddygfeydd eraill, cododd y gyfran o 11.4% i 17.3%. 

Mae cyfradd yr ymgynghoriadau â meddygon teulu oherwydd salwch tebyg i’r ffliw hefyd wedi codi 35% mewn wythnos yn y meddygfeydd sy’n rhan o’r rhwydwaith. Mae’r gyfradd yn dal yn isel, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Ddechrau mis Tachwedd, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod tymor y ffliw wedi dechrau’n gynharach na’r arfer yng Nghymru, ond bod y tymor wedi dechrau’n gynharach fyth y llynedd. 

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ffliw bellach yn cylchredeg ledled Cymru ac ychydig yn gynharach nag y byddai disgwyl fel arfer.”

Ychwanegodd fod dau is-fath o ffliw math A yn cylchredeg yng Nghymru. Dywedodd y gall un ohonyn nhw, H1, effeithio’n fwy ar bobl iau, menywod beichiog a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Yn y gorffennol, mae’r llall, H3, wedi bod yn gysylltiedig â lefelau uwch o salwch ymhlith pobl hŷn.

Pwysleisiodd Dr Johnson fod amser o hyd i bobl sy’n gymwys gael eu brechu cyn i nifer yr achosion gyrraedd ei uchafbwynt.

Anogodd bobl hefyd i olchi eu dwylo’n rheolaidd, aros gartref pan fyddan nhw’n sâl a gadael awyr iach i mewn i helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Disgwyl cynnydd mewn derbyniadau i ysbytai

Cafodd 125 o gleifion oedd wedi dal y ffliw yn y gymuned eu derbyn i ysbytai yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 22 Tachwedd 

Roedd cyfanswm o 244 o gleifion â’r ffliw mewn ysbytai ledled Cymru, gan gynnwys pedwar oedd mewn unedau gofal critigol. Roedd 171 o’r 244 o gleifion hynny (70%) wedi’u cofnodi fel rhai oedd wedi dal y feirws yn yr ysbyty.

Mae rhagolygon Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty gyda’r ffliw godi i 156 yn yr wythnos hyd at 29 Tachwedd ac i 170 yr wythnos ganlynol.

Byddai hynny’n gynnydd o 36% mewn pythefnos. Mae disgwyl i nifer y derbyniadau dros y pythefnos fod yn debyg i’r nifer yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Galwad ar bobl i gael eu brechu

Ym mis Hydref, rhybuddiodd Dr Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, fod y ffliw’n gallu bod yn llawer mwy nag “anghyfleustra tymhorol”.

Dywedodd y gall y feirws achosi salwch difrifol sy’n gofyn am driniaeth yn yr ysbyty, yn enwedig ymhlith pobl hŷn, plant ifanc, menywod beichiog a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor.

Anogodd bawb sy’n gymwys i gael y brechlyn cyn gynted â phosib. 

Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd 59.7% o bobl 65 oed a hŷn yng Nghymru wedi cael eu brechu rhag y ffliw erbyn 23 Tachwedd.

Ymhlith pobl rhwng chwe mis a 64 oed sydd mewn grwpiau risg clinigol, roedd 29.1% wedi cael eu brechu. Roedd 45.1% o blant oedran ysgol gynradd a 14.8% o blant oedran ysgol uwchradd hefyd wedi cael y brechlyn. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod brechu rhag y ffliw wedi atal 1,226 o dderbyniadau i ysbytai yng Nghymru yn ystod tymor y ffliw y llynedd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.