Dadorchuddio cofeb yn Kyiv i’r newyddiadurwr o Gymru Gareth Jones
Mae Maer Kyiv, Vitalii Klitschko, wedi dadorchuddio cofeb ddydd Gwener i’r newyddiadurwr o Gymru Gareth Jones.
Mae'n cael ei gofio yn bennaf am ddatgelu i’r byd hanes yr Holodomor, y newyn yn yr Undeb Softetaidd a arweiniodd at farwolaethau mwy na phedair miliwn o bobl yn Wcráin.
Bu hefyd yn gweithio i'r cyn-Brif Weinidog David Lloyd George ar faterion tramor. Cafodd ei saethu'n farw yn China yn 29 oed dan amgylchiadau sy'n parhau yn ddirgelwch hyd heddiw.
Piler o lechi Cymru yw’r gofeb. Mae’n ddau fetr o uchder ac yn pwyso ychydig o dan dunnell. Cafodd ei chludo o dde Cymru i Kyiv yn gynharach yr wythnos hon i’w gosod ar Stryd Gareth Jones.
Dros y gofeb roedd yr un gorchudd â’r ddraig Gymreig arno, wedi’i wneud â llaw, a gafodd ei ddefnyddio i ddadorchuddio cerflun Rhodri Morgan ym Mae Caerdydd yr haf hwn.
Ymhlith y rhai oedd yn y seremoni roedd Llysgennad y DU yn Wcráin, Syr Neil Crompton, Darren Millar AS ar ran Senedd Cymru, a Mick Antoniw, cyn-aelod o’r Senedd a chyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru.
Hefyd yno o Gymru roedd Alun Davies, cyn-aelod o’r Senedd, a Wayne Thomas, is-lywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM).
Mae’r geiriau ar y piler mewn tair iaith: “Gareth Jones, a ddywedodd wrth y byd am yr Holodomor.”
Daeth y seremoni i ben wrth i anthem genedlaethol Cymru gael ei chwarae. Dyma’r tro cyntaf i Hen Wlad Fy Nhadau gael ei chwarae mewn digwyddiad dinesig cyhoeddus yn Kyiv, meddai'r trefnwyr.
Llywodraeth Cymru dalodd am y gofeb drwy Grŵp Trawsbleidiol Cyfeillion Wcráin yn y Senedd. Darren Millar AS a Huw Thomas AS yw cyd-gadeiryddion y grŵp.
Mae Mick Antoniw yn aelod o’r ail genhedlaeth o’i deulu o Wcráin. Mae’n gyn-aelod o’r Senedd ac yn gyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru.
“Mae Gareth Jones yn arwr o Gymru a dylen ni fod yn falch o’r hyn a wnaeth," meddai.
"Fe deithiodd i’r Undeb Sofietaidd, mynd yn groes i’r graen a mentro i ddwyrain Wcráin, er gwaetha’r perygl, i weld drosto’i hun effaith newyn Stalin.
"Arweiniodd y newyn at farwolaethau mwy na phedair miliwn o bobl yn Wcráin. Fe welodd yr effaith drosto’i hun a dweud y gwir wrth y byd amdani.
“Roedd Stalin yn ofni gwrthryfel ac yn ofni colli rheolaeth ar Wcráin. Dechreuodd erlid pobl Wcráin a’u hiaith a’u diwylliant yn ddidrugaredd, a chyflwyno polisi o Rwsieiddio’r wlad. Mae llywodraethau mewn sawl gwlad, yn ogystal â Senedd Cymru, bellach yn cydnabod hyn fel gweithred o hil-laddiad.
“Mae creu’r gofeb hon ar yr adeg hon yn ffordd o roi teyrnged i’r miliynau o ddioddefwyr a hefyd o sefyll gydag Wcráin wrth i Rwsia ymosod arni bob dydd. Mae hefyd yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw newyddiaduraeth foesegol wrth amddiffyn democratiaeth.”
Mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi llyfryn, Gareth Jones: Y newyddiadurwr a ddywedodd wrth y byd am yr Holodomor.
Y Lolfa sydd wedi cyhoeddi’r llyfryn yng Nghymru. Mae’n adrodd hanes creu’r gofeb ac yn cynnwys negeseuon o gefnogaeth gan Faer Kyiv, Prif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Graham Colley, gor-nai i Gareth Jones, yr awdur a’r hanesydd Dr Ray Gamache, a Martin Shipton, un o olygyddion Nation.Cymru.