AS Reform am ofyn i farnwr ddiddymu'r gwaharddiad arno rhag siarad yn y Siambr

Joe Martin

Mae aelod o’r Senedd dros Reform UK wedi anfon llythyr at Gomisiwn y Senedd yn dweud ei fod yn bwriadu herio penderfyniad y Llywydd i beidio â’i alw i siarad yn y Siambr.

Cafodd Joe Martin, AS Reform UK, ei wahardd rhag siarad yn y Senedd ar ôl i'r Llywydd, Huw Irranca-Davies ddisgrifio ei sylwadau fel rhai “gwahaniaethol” a “sarhaus”.

Mae Joe Martin bellach wedi dweud wrth bapur newydd y Telegraph ei fod yn bwriadu gofyn i farnwr ddiddymu’r gwaharddiad arno rhag siarad yn y Senedd. 

Gyda chefnogaeth y Free Speech Union, mae’n ceisio adolygiad barnwrol o’r penderfyniad ar y sail bod Mr Irranca-Davies wedi mynd y tu hwnt i’w bwerau, meddai.

Dywedodd ei fod wedi anfon “llythyr cyn hawliad” at Gomisiwn y Senedd yn rhoi gwybod am ei fwriad i geisio adolygiad barnwrol o’r penderfyniad.

Mae’n dweud bod y penderfyniad yn mynd yn groes i’w hawl i ryddid mynegiant o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

“Dw i’n falch o gyhoeddi y bydda i’n cymryd pob cam cyfreithiol posib yn erbyn Comisiwn y Senedd am ei orchymyn anghyfreithlon sy’n fy ngwahardd rhag siarad yn Senedd Cymru,” meddai Joe Martin.

“Dw i’n gwneud hyn mewn partneriaeth â’r Free Speech Union. Maen nhw’n arwyr.

“Rydyn ni wedi gweld ymosodiad digynsail ar ryddid i lefaru, a bydda i’n brwydro yn erbyn hyn hyd y diwedd. Y cyfan dw i eisiau ei wneud yw cynrychioli fy etholwyr. 

“Maen nhw’n haeddu cael eu clywed.”

Dywedodd y Telegraph nad oedd llefarydd ar ran y Senedd am ymateb i sylwadau Mr Martin. Mae Newyddion S4C wedi holi am ymateb.

Y cefndir

Mae Joe Martin, sy’n cynrychioli Caerdydd Penarth yn y Senedd ar ran Reform UK, wedi’i wahardd rhag siarad yn y Senedd ers 10 Tachwedd. 

Cafodd ei wahardd ar ôl iddo godi cwestiynau am y posibilrwydd y byddai pobl wyn yn dod yn lleiafrif.

Y diwrnod hwnnw, gofynnodd i Lywodraeth Cymru am ddatganiad ar “y newid demograffig sy’n digwydd yn y DU wrth i bobl wyn Prydeinig gael eu disodli”.

Dywedodd Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies, sy’n Aelod o’r Senedd dros Lafur, fod y cwestiwn wedi “tynnu oddi ar urddas y Senedd”. 

Dywedodd mai dim ond pe bai Mr Martin yn ymddiheuro y byddai’n codi’r gwaharddiad.

Fe wnaeth Reform Cymru gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywydd y Senedd nos Fawrth, ond cafodd ei drechu.

Wedi areithiau angerddol a thanllyd yn y Siambr, gwrthododd 55 aelod y cynnig. Roedd 29 o aelodau Reform o blaid y cynnig. 

Mae Mr Martin yn gwrthod ymddiheuro.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.