Bangor: Cynllun i amddiffyn eiddo rhag llifogydd wedi 'trawsnewid' rhan o'r ddinas

Hirael, Bangor

Mae prosiect gwerth bron i £6 miliwn i amddiffyn 200 o gartrefi a busnesau rhag llifogydd arfordirol ym Mangor wedi "trawsnewid" rhan o'r ddinas.

Yn ogystal â diogelu eiddo yn ardal Hirael, mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud nifer o welliannau i'r ardal "er budd trigolion ac ymwelwyr."

Mae'r gwelliannau yn cynnwys llwyfan gwylio newydd, meinciau, goleuadau gwell ar hyd y promenâd a chyfleusterau ar gyfer beicwyr.

Fel rhan o'r prosiect, cafodd dau artist lleol eu comisiynu i greu gwaith sy'n dathlu hanes a threftadaeth yr ardal.

Cafodd cerflun newydd ei greu gan y dylunydd Joseph Conran, gyda geiriau gan y bardd Osian Owen hefyd wedi eu gosod ar lechi ar hyd y promenâd.

Image
Hirael, Bangor
Y gerflun newydd. Llun: Cyngor Gwynedd

Dathlu treftadaeth yr ardal

Mae'r cerflun, o'r enw Olyniaeth, wedi ei ysbrydoli gan hanes diwydiannol Bangor a chysylltiad y gymuned leol â'r tir a'r môr.

Mae'r cerflun yn dangos mesen yn egino, gyda'r fesen wedi ei chreu gan ddefnyddio bwiau o'r 1870au a oedd yn cael eu defnyddio i warchod cychod ar y Fenai.

Dywedodd Joseph Conran: "Mae dail y dderwen sy'n tyfu ohono yn ffurfio strydoedd Efrog Newydd a Melbourne, dau o'r dinasoedd pellaf yr oedd llechi yn cael eu hallforio iddynt o Fangor.

"Mae'r gwaith yn dathlu cymuned Hirael a'u cysylltiad dwfn hefo'r tir a'r môr."

Dywedodd y bardd Osian Owen ei fod yn awyddus i adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal.

"Er fod yr ardal yma yn ganolbwynt byd-eang i'r diwydiant llechi ar un adeg, 'adra' oedd o i bobl leol," meddai.

"Dwi'n gobeithio y bydd y geiriau'n atgoffa pobl o gyfraniad arwyddocaol cymunedau dosbarth gweithiol Arfon i'r byd."

Image
Hirael, Bangor

'Trawsnewid yr ardal yn llwyr'

Fel rhan o'r prosiect, bu peirianwyr yn ymweld ag Ysgol Hirael er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion o effeithiau newid hinsawdd ac egluro sut y gall gwaith peirianyddol helpu i ddiogelu cymunedau lleol.

Bu'r disgyblion hefyd yn rhan o'r gwaith o ddylunio arwydd newydd ar gyfer y pwynt gwefru beiciau trydan a'r uned atgyweirio beiciau ar y promenâd.

Mae nodweddion draenio cynaliadwy hefyd wedi eu cyflwyno yn yr ardal, gan gynnwys gardd law.

Yn ogystal, cafodd ffigysbren a oedd yn tyfu o'r hen wal fôr ei symud yn ofalus i leoliad newydd ar Lôn y Traeth dan oruchwyliaeth arbenigwyr.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd: "Mae'r gwaith atal llifogydd hynod bwysig yma nid yn unig yn helpu i ddiogelu nifer fawr o gartrefi a busnesau ym Mangor, ond mae hefyd wedi creu gofod bendigedig i'r gymuned ac i ymwelwyr.

"Mae wedi trawsnewid yr ardal yn llwyr, ac mae'n braf gweld y gwaith celf, yn ogystal â chymaint o bobl yn mwynhau defnyddio'r lle."

Bydd gwaith pellach yn digwydd dros yr wythnosau nesaf i gwblhau'r trefniadau teithio llesol yn yr ardal, gan gynnwys cwblhau llwybr ar gyfer cerddwyr a beicwyr o amgylch y maes parcio dwyreiniol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.