Teyrnged i ŵr 'cariadus' a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nociau Caerdydd

paul

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i “ŵr ymroddgar a thad a brawd cariadus” a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nociau Caerdydd ym mis Tachwedd.

Bu farw Paul Janssen, 57 oed, o Gasnewydd, yn y digwyddiad ar 2 Tachwedd. 

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu Paul: "Mae colli Paul wedi torri calonnau ei deulu a’i ffrindiau. Roedd yn ŵr ymroddgar, yn dad cariadus, yn frawd ac yn ffrind annwyl iawn.

“Mae ei golli wedi gadael bwlch y tu hwnt i bob dychymyg ym mywydau’r rhai a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu.

“Rydyn ni’n ei chael hi’n anodd dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd, ac rydyn ni’n ceisio ymdopi â’n galar yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Rydym yn gofyn yn garedig i bawb barchu ein preifatrwydd wrth i ni ddod i delerau â’n colled, ac i gefnogi ein gilydd. Hoffem ddiolch i bawb am eu caredigrwydd, eu cariad a’u dealltwriaeth."

Dywedodd yr heddlu ym mis Tachwedd eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad. 

Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) eu bod yn ymwybodol ac yn cefnogi ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.