Gemau ail-gyfle Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru i wynebu Slofenia
Bydd Cymru yn wynebu Slofenia yng ngemau ail-gyfle Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Mawrth er mwyn aros yng Nghynghrair A.
Fe wnaeth tîm Craig Bellamy Cymru orffen ar waelod y grŵp ac fe fyddan nhw'n chwarae yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth er mwyn cadw eu lle yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd.
Gorffennodd Slofenia yn yr ail safle yn eu grŵp yng Nghynghrair B.
Mae Cymru ym Mhot Un, gan olygu y byddan nhw'n chwarae'r gêm gyntaf o'r ddwy oddi cartref cyn chwarae'r ail gêm gartref.
Dim ond unwaith y mae Cymru wedi wynebu Slofenia o'r blaen, a hynny mewn gêm gyfeillgar ddi-sgôr yn Abertawe 21 mlynedd yn ôl.
Bydd y gêm gyntaf yn cael ei chwarae ar naill ai ddydd Iau 25 Mawrth neu ddydd Sadwrn 27 Mawrth.
Bydd yr ail gêm yna yn cael ei chwarae ar 28 Mawrth neu ar ddydd Mawrth 30 Mawrth.