Disgwyl i Putin, Trump a Xi gyfarfod am y tro cyntaf erioed
Mae disgwyl i arweinwyr tri o bwerau mawr y byd – Tsieina, Rwsia ac America – gyfarfod ddydd Mercher, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Bydd y cyfarfod rhwng Xi Jinping, Vladimir Putin a Donald Trump yn digwydd yn Shenzhen yn Tsieina, ochr yn ochr ag uwchgynhadledd APEC.
Bydd y cyfarfod hanesyddol yn dod ag arweinwyr rhai o economïau mwyaf y byd at ei gilydd.
Ond does dim sicrwydd a fyddan nhw'n dod i unrhyw gytundeb ar faterion dadleuol fel y rhyfeloedd yn Wcráin ac Iran.
Mae disgwyl i Putin a Xi, sy'n gynghreiriaid agos, gyfarfod yn gyntaf. Bydd Trump yn hedfan i Tsieina yn ystod y dydd, ar ôl bod mewn uwchgynhadledd arall yn Ynysoedd y Philipinau.
Beth sydd ar yr agenda?
Dyw Tsieina ddim wedi rhoi manylion ynglŷn â beth fydd ar yr agenda yn ystod y cyfarfod, ond mae llawer o bynciau llosg allai godi.
Mae'r Wall Street Journal yn dweud mai Putin oedd wedi cynnig y trafodaethau, er mwyn ceisio dod â'r rhyfel yn Wcráin i ben.
Ym mis Hydref, fe ddywedodd Trump y byddai'n croesawu trafodaethau gyda'r ddau arweinydd arall ynglŷn â chael gwared ar arfau niwclear.
Fe awgrymodd wrth newyddiadurwyr yn gynharach y mis yma y byddai sawl mater yn cael ei drafod.
"Rydyn ni'n trio stopio'r rhyfel yn Iran," meddai ar y pryd.
Cynhadledd ehangach
Yn ystod uwchgynhadledd APEC, bydd arweinwyr o bob rhan o ranbarth Asia a'r Môr Tawel yn dod ynghyd.
Cafodd APEC ei sefydlu yn 1989 gyda'r bwriad o gryfhau cysylltiadau economaidd yn y rhanbarth.
Mae penderfyniadau'n cael eu gwneud drwy gonsensws rhwng yr arweinwyr, ond dydyn nhw ddim yn rhwymol yn gyfreithiol.