'Angen eu diogelu': Profiad menyw yn dangos peryglon ymwrthedd i wrthfiotigau

Harriet Davies

Bu’n rhaid i fenyw 37 oed aros yn yr ysbyty am saith wythnos yn hytrach na 48 awr ar ôl i wrthfiotigau fethu â thrin haint difrifol yn ei habdomen.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod achos Harriet Davies, 37 oed, yn dangos peryglon ymwrthedd i wrthfiotigau, gan ddweud bod gan “bawb rôl i’w chwarae” wrth sicrhau nad yw gwrthfiotigau yn cael eu defnyddio pan nad oes eu hangen.

Roedd Harriet wedi datblygu crawniad (abscess) ar ôl llawdriniaeth frys ar ôl i’w phendics rwygo ar wyliau yn Ffrainc.

Gan nad oedd modd draenio’r crawniad yn ddiogel, fe wnaeth y meddygon newid ei thriniaeth wrthfiotig gychwynnol.

“Roedd angen triniaeth wahanol arna i a chwrs llawer hirach o wrthfiotigau nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl,” meddai.

“Roedd hynny’n dod â risgiau difrifol ynddo’i hun, ac yn y pen draw fe achosodd i mi fynd yn sâl iawn eto.”

Image
Harriet Davies
Llun: Harriet Davies

Ar ôl i Harriet dderbyn gofal pellach yn yr ysbyty, mi gafodd ei rhyddhau gyda chwrs chwe wythnos o wrthfiotigau.

Ond fe ddioddefodd adwaith difrifol yn ystod y bumed wythnos, gan achosi anaf i’w hiau a gostyngiad peryglus yn nifer celloedd gwyn ei gwaed.

Roedd hynny’n golygu bod yn rhaid iddi fynd yn ôl i’r ysbyty.

“Cyn i hyn ddigwydd, doedd gen i ddim problemau iechyd,” meddai.

“Doeddwn i byth yn disgwyl mynd mor sâl na bod angen cwrs o driniaeth mor hir.

“O gael y profiad hwn, rwy’n sylweddoli faint rydyn ni’n dibynnu ar wrthfiotigau effeithiol a pham ei bod hi mor bwysig eu diogelu ar gyfer y dyfodol.”

‘Beth sydd yn y fantol’

Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn digwydd pan fydd bacteria’n peidio ag ymateb i’r gwrthfiotigau sy’n cael eu defnyddio i’w trin.

Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach trin heintiau ac yn gallu arwain at salwch hirach, cyfnodau hirach yn yr ysbyty a chymhlethdodau difrifol.

Mae gwrthfiotigau hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnal llawdriniaethau a rhoi gofal canser, felly mae’n bwysig diogelu eu heffeithiolrwydd, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Nerys Evans, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, fod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn un o’r “bygythiadau mwyaf” i iechyd byd-eang.

Ychwanegodd: “Mae profiad Harriet yn dangos beth sydd yn y fantol pan fydd triniaethau’n peidio â gweithio fel y dylent.

“Mae gwrthfiotigau yn gynsail i gymaint o agweddau ar ofal iechyd modern, o’r llawdriniaethau mwyaf cyffredin i ofal canser.”

Image
Dr Nicholas Reid
Dr Nicholas Reid, Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol yn ICC

Dywedodd Dr Nicholas Reid, Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Pan na fydd gwrthfiotigau’n gweithio fel y disgwylir iddynt wneud, efallai y bydd angen triniaethau amgen neu ofal ysbyty hirach ar bobl.

“Mae diogelu eu heffeithiolrwydd yn hanfodol ar gyfer trin heintiau, cynnal llawdriniaethau a rhoi gofal canser.

“Mae gan bawb rôl i’w chwarae, ochr yn ochr â gwaith parhaus ar draws meysydd gofal iechyd, iechyd anifeiliaid a’r amgylchedd, i atal heintiau a mynd i’r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau.”

Mewn datganiad, fe ddywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pobl gymryd gwrthfiotigau yn unol â’r presgripsiwn yn unig, peidio â’u rhannu na’u cadw, a dychwelyd y rhai heb eu defnyddio i fferyllfa.

Fe wnaeth ICC hefyd amlinellu camau ymarferol i’r cyhoedd, gan gynnwys:

  • Dim ond cymryd gwrthfiotigau sydd wedi’u rhagnodi ar eich cyfer a dilyn cyfarwyddiadau eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
  • Cofio nad yw gwrthfiotigau yn trin heintiau feirysol fel annwyd a ffliw, a pheidio byth â rhannu gwrthfiotigau na chadw’r hyn sy’n weddill ar gyfer salwch arall.
  • Dychwelyd gwrthfiotigau heb eu defnyddio neu sydd wedi mynd heibio’u dyddiad defnyddio i fferyllfa leol.
  • Cael y brechiadau sy’n cael eu hargymell i helpu i atal heintiau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.