Colledion cwmni cyfryngau Orchard yn £1.7m cyn mynd i'r wal

Cwmni Orchard Media

Roedd gan gwmni cyfryngau a digwyddiadau o Gaerdydd ddyledion o £1.4 miliwn, cyn iddyn nhw fynd i ddwylo’r gweinyddwyr fis Medi, gydag arian yn ddyledus i gwmnïau a sefydliadau blaenllaw.

£1.7 miliwn oedd cyfanswm colledion cwmni Orchard Media and Events Group Ltd.  

Dywedodd y cwmni mewn datganiad ar y pryd iddyn nhw "wneud y penderfyniad anodd i roi’r gorau i fasnachu" oherwydd "heriau yn sgil marchnad sy’n crebachu a chystadleuaeth gynyddol."

Collodd tua 70 o staff eu gwaith. 

Ymhlith cleientiaid y cwmni, roedd Llywodraeth Cymru, Netflix, Cymdeithas Adeiladu'r Principality ac Aston Martin.

Mae dogfen sydd wedi'i chyhoeddi gan Dŷ'r Cwmnïau yn rhestru dyledion Orchard Media, gan nodi cwmnïau ac unigolion heb eu talu.
 
Mae dyled o fwy na £95,500 i gwmni cyfryngol Afanti Media, £55,000 i Glwb Pêl-droed Wrecsam a mwy nag £20,000 i'r BBC. 
 
Mwy na £17,000 yw'r ddyled i Gyngor Caerdydd, a £15,000 i Gyngor Celfyddydau Cymru.  
 
Ymhlith y dyledion mwyaf, mae mwy na £149,000 i The Walt Disney Company Limited, ac roedd £116,000 a £256,000 yn ddyledus i ddwy adran Cyllid a Thollau.   
 
Tafwyl 
 

Roedd Orchard Media wedi cynhyrchu rhaglenni teledu ar gyfer S4C, BBC a Channel 4, a nhw gynhyrchodd ddarllediadau S4C o ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd yn haf 2026, rai misoedd cyn mynd i'r wal. 

Fis Medi, honnodd rhai gweithwyr llawrydd gyfrannodd at y rhaglen honno nad oedden nhw wedi cael eu talu am y gwaith hwnnw. 
 
Mae Menter Caerdydd, sydd yn trefnu digwyddiad Tafwyl, yn un o gredydwyr Orchard Media, gyda £15,000 yn ddyledus iddyn nhw. 
 
Fis Medi, pan alwodd Orchard Media y gweinyddwyr, disgrifiodd ffynhonnell o fewn Menter Caerdydd y ddyled fel "tipyn o glec" wrth Newyddion S4C.
 
Er i gerddorion yn nigwyddiad Tafwyl dderbyn ffî am berfformio, chafodd nifer o'r rhai gafodd eu perfformiadau eu darlledu ar S4C ddim eu talu gan Orchard Media.
 
Nododd S4C ar y pryd mai Orchard fel y cwmni cynhyrchu oedd yn gyfrifol am daliadau i artistiaid a phawb oedd yn gweithio ar y cynhyrchiad. 
 
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y sianel: "Roedd hi’n ddrwg gennym glywed y newyddion am gwmni Orchard ac mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y datblygiadau. Rydym yn cydnabod y pryder a rhwystredigaeth sy’n deillio o’r sefyllfa."
 

Mewn datganiad fis Medi, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol fod rhai trydydd partïon heb gael eu talu gan Orchard am waith a oedd wedi ei gomisiynu gan y llywodraeth, a'u bod yn barod i "gynnig cefnogaeth" wedi i'r cwmni fynd i'r wal.   

'Heriau'

Cafodd Orchard Media ei sefydlu yn 2010. Wrth gyhoeddi eu bod yn galw'r gweinyddwr, nododd y cwmni iddyn nhw wynebu heriau sylweddol. 

"Arweiniodd hyn at sefyllfa lle nad oedd maint ac ansawdd ein gwaith bellach yn gynaliadwy" meddai'r datganiad. 

“Drwy gydol y cyfnod hwn, parhaodd ein tîm ymroddedig ac arbenigol o staff i sicrhau canlyniadau rhagorol i’n cleientiaid."

Ychwanegodd y cwmni: “Mae gennym hanes rhagorol fel cwmni ers inni gael ein sefydlu fel Orchard yn 2010. 

“Tyfodd y cwmni’n sylweddol, gan ddatblygu ein gwasanaethau ac ymateb i anghenion ein cleientiaid, a daeth yn gwmni sy’n eiddo i’w weithwyr yn 2024.

“Hoffem ddiolch i’n cleientiaid, ein cyflenwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth.”

Yn 2024 fe sefydlodd y cwmni ymddiriedolaeth perchnogaeth gweithwyr (EOT) gan drosglwyddo perchnogaeth i weithwyr y cwmni.

Dywedodd y cwmni bryd hynny fod ganddynt drosiant o £15 miliwn y flwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.