Tanau gwyllt yr haf wedi costio tua £500,000 i Wasanaeth Tân y Gogledd
Mae adroddiad i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amcangyfrif bod tanau gwyllt dros yr haf wedi costio tua hanner miliwn o bunnoedd i’r gwasanaeth.
Fe welwyd nifer o danau sylweddol yn yr ardal dros fidoedd yr haf, gan gynnwys un ar Fynydd y Dref ger Conwy ym mis Gorffennaf a oedd wedi ymestyn dros tua 230 erw.
Roedd tân sylweddol hefyd ar y Rhinogydd wedi effeithio ar tua 2,000 erw, gan olygu bod angen ymateb gan sawl asiantaeth am bron i bythefnos.
Mae adroddiad ar gyllideb 2027–28, a baratowyd ar gyfer cyfarfod yr awdurdod ddydd Llun, yn rhybuddio y gallai gwaith i baratoi ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau tywydd yn y dyfodol arwain at gostau ychwanegol.
“Ar ôl y gwaith sylweddol yn sgil y tywydd heriol, mae gwaith yn parhau ar lefel genedlaethol i ystyried sut i ymateb yn y dyfodol a pha gamau sydd eu hangen,” meddai.
“Gallai canlyniad y gwaith hwn arwain at gostau uwch o ran gweithrediadau, staffio, cerbydau ac offer.”
Nid oes arian wedi’i neilltuo yn y gyllideb ar gyfer hyn eto, gan fod y gwaith yn ei gamau cynnar.
Cymorth brys
Dywedodd yr adroddiad ar y tanau gwyllt y byddai cais yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol brys i dalu costau cymwys.
Yn ôl yr adroddiad cyllidebol, mae’r ardoll ar y chwe chyngor yng ngogledd Cymru yn debygol o gynyddu ar gyfer 2027–28. Nid yw’r gyllideb na’r ardoll derfynol wedi’u penderfynu eto.
Ar wahân i gostau’r tanau, mae’r adroddiad cyllidebol yn nodi bod nifer y diffoddwyr tân ar alwad wedi cynyddu 52 dros 12 mis. Maen nhw'n amcangyfrif bod hynny’n creu pwysau o tua £500,000 ar y gyllideb, cyn cynnwys codiadau cyflog.
“Mae’r risgiau sy’n wynebu’r Gwasanaeth yn newid,” meddai’r adroddiad ar y tanau gwyllt.
“Mae cyfnodau hir o dywydd poeth, sych a gwyntog yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd tanau glaswellt a llystyfiant yn datblygu’n ddigwyddiadau cymhleth sy’n gofyn am adnoddau dros gyfnod hir.
“Digwyddodd tanau’r haf wrth i’r Gwasanaeth barhau i ymateb i argyfyngau arferol. Fe wnaethon nhw ennyn cryn ddiddordeb ymhlith y cyhoedd, y cyfryngau a gwleidyddion.”
Cymorth o'r awyr
Mae’r adroddiad yn dweud bod gwella mynediad at adnoddau arbenigol a sicrhau bod cymorth o’r awyr ar gael ymhlith y meysydd sydd angen rhagor o waith wrth baratoi ar gyfer tanau gwyllt yn y dyfodol.
“Ymhlith y prif risgiau mae digwyddiadau ar yr un pryd, yr angen i ddefnyddio adnoddau dros gyfnod hir, tir anodd, prinder awyrennau arbenigol, lles diffoddwyr tân, difrod amgylcheddol, tarfu ar gymunedau a phwysau ariannol,” meddai’r adroddiad.
“Mae lleihau’r risgiau hyn yn dibynnu ar atal tanau, pobl sydd wedi’u hyfforddi, offer addas, trefniadau cadarn i reoli a chyfarwyddo’r ymateb, cymorth rhwng gwasanaethau a phartneriaethau cryf.
“Mae hefyd yn dibynnu ar gymorth o’r awyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a dysgu’n systematig o ddigwyddiadau sylweddol.”