Tri phlentyn wedi eu hanafu ar ôl i fws ysgol daro pont reilffordd
Mae tri phlentyn wedi eu hanafu ar ôl i fws ysgol daro pont reilffordd yng Nghasnewydd.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Tregare tua 07.45 ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Gwent fod tri phlentyn wedi eu hanafu a'u bod wedi eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.
Nid yw eu hanafiadau yn cael eu hystyried fel rhai sy’n peryglu eu bywydau.
Roedd y ffordd ar gau fore Mawrth a thraffig yn cael ei ddargyfeirio, meddai’r heddlu.
Roedd criwiau o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd wedi eu galw i leoliad y ddamwain.
Mae'r digwyddiad wedi effeithio ar drenau yn ardal Casnewydd, gyda Thrafnidiaeth Cymru'n rhybuddio am oedi posib tan 12:00.