Biliau ynni: Rhagweld y cynnydd mwyaf mewn pedair blynedd
Mae disgwyl i filiau ynni godi hyd at 16% ym mis Ionawr.
Os yw'r rhagolygon yn gywir, dyma fydd y cynnydd mwyaf mewn pedair blynedd.
Yn ôl y cwmni ymgynghori Cornwall Insight, fe allai biliau blynyddol nodweddiadol godi i £1,999.
Mae disgwyl i filiynau o bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sydd ar dariffau ynni amrywiol weld cynnydd o 4% yn eu biliau ddydd Iau. Mae'r prisiau'n cael eu pennu gan gap prisiau Ofgem, a bydd y cynnydd yn golygu talu tua £5 yn fwy bob mis.
Byddai'r cynnydd wedi bod yn fwy oni bai bod Llywodraeth y DU wedi torri Treth ar Werth (TAW).
Daw'r rhagolygon am brisiau uwch ym mis Ionawr yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Mae'r gwrthdaro wedi tarfu ar gyflenwadau nwy ac wedi arwain at lefelau isel o nwy wedi'i storio yn Ewrop.
Fe allai ailgyflenwi'r stociau hynny olygu bod biliau'n parhau'n uchel "ymhell y tu hwnt i'r gaeaf", meddai Cornwall Insight.
Mae'r cwmni ymgynghori yn uchel ei barch ar draws y sector ac mae ganddo hanes cryf o ddarogan yn gywir. Mae cyflenwyr ynni hefyd wedi dweud eu bod yn rhagweld y bydd prisiau ynni'n codi.
Yn ôl pennaeth y cyflenwr EDF, Simone Rossi, mae Prydain yn wynebu "ail argyfwng ynni". Mae wedi galw am ymestyn y toriad mewn TAW.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn ystyried ffyrdd o helpu pobl gyda chostau byw.