Bad achub yn cludo dynes o Ynys Sgogwm ar ôl amheuaeth o drawiad ar y galon

Llun: Bad Achub Angle
Sgogwm

Mae dynes 74 oed wedi cael ei chludo o Ynys Sgogwm i'r ysbyty ar ôl amheuaeth ei bod wedi dioddef trawiad ar y galon. 

Cafodd criw Bad Achub Angle eu galw am 16:21 ddydd Llun i helpu i gludo'r ddynes oddi ar yr ynys.

Lansiodd y bad achub 10 munud yn ddiweddarach a mynd tuag at Sgogwm.

Dywedodd Bad Achub Angle: "Wrth i ni deithio yno, fe gawson ni ddiweddariad gan Wylwyr y Glannau fod nyrs arbenigol y galon nad oedd ar ddyletswydd gyda'r ddynes, a bod ganddi bryderon bod ei chyflwr yn gwaethygu."

Cyrhaeddodd y bad achub tua 25 munud ar ôl lansio.

Gan fod y llanw'n rhy isel i'r bad achub gyrraedd y man glanio, cafodd cwch chwyddadwy llai ei ddefnyddio i fynd â chriw oedd wedi'u hyfforddi i ofalu am bobl sâl neu wedi'u hanafu i'r lan.

Ychwanegodd Bad Achub Angle: "Cafodd y ddynes ei lleoli wrth y man glanio gyda wardeiniaid Ynys Sgogwm, a chafodd ei chludo'n gyflym ar y cwch chwyddadwy cyn cael ei throsglwyddo i'r bad achub.

"Yna fe aeth y criw yn ôl i lanfa Awdurdod y Porthladd mor gyflym â phosib, lle'r oedd ambiwlans wedi cael ei alw i'n cyfarfod."

Ond dywedodd y bad achub fod yr amser aros am ambiwlans wedi cynyddu, ac felly cafodd y ddynes ei chludo i orsaf y bad achub. Yna fe aeth hi i Ysbyty Llwynhelyg mewn cerbyd preifat.

Roedd y bad achub yn ôl yn barod ar gyfer galwad arall erbyn 18:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.