Y digwyddiad y RAF Fairford yn dangos 'dylanwad tramor' meddai Marco Rubio
Roedd cynllun terfysgol honedig yn erbyn canolfan yr RAF sydd yn cael ei defnyddio gan luoedd America yn dangos dylanwad tramor, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio.
Mewn cyfweliad teledu, fe wnaeth Mr Rubio enwi Iran, gan nodi ei bod wedi bygwth ymosod ar fuddiannau'r Unol Daleithiau, ond ni wnaeth gyhuddo'r wlad yn uniongyrchol o fod yn gyfrifol am y digwyddiad dros y penwythnos.
Mae Tehran wedi gwadu unrhyw ran yn y digwyddiad.
Disgrifiodd Mr Rubio y digwyddiadau ger RAF Fairford yn Sir Gaerloyw fel "sefyllfa ddifrifol iawn" ac fe wnaeth ddiolch i'r awdurdodau ym Mhrydain am eu hymateb, gan ddweud eu bod wedi bod yn "cydweithredu'n dda ac yn hynod gymwynasgar".
Dywedodd hefyd fod "llawer o bobl yn bryderus" yn dilyn rhyddhau pump o bobl ar fechnïaeth.
Roedd y dynion wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r cynllun honedig, gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn dweud yn gynharach ei fod yn "synnu" bod y grŵp wedi cael eu rhyddhau.
'Sefyllfa ddifrifol'
Wrth siarad gyda Fox News, dywedodd Mr Rubio: “Mae’n rhaid i mi fod yn ofalus. Mae rhai pethau na allaf eu dweud ar yr awyr am nifer o resymau gwahanol.
“Digon yw dweud bod yr hyn a ddigwyddodd, yr hyn a ddigwyddodd bron, a’r hyn a allai fod wedi digwydd yn y DU dros y penwythnos, yn sefyllfa ddifrifol iawn.
“Mae’n sefyllfa sy’n amlwg yn cynnwys ymyrraeth gan actor tramor. Ni fyddaf yn mynd i fanylion manwl am hynny eto.
“Rwyf wir eisiau diolch i’r awdurdodau yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod yn gydweithredol iawn ac wedi bod ar ben y sefyllfa.”
Ychwanegodd: “Gwn fod llawer o bobl yn bryderus am y newyddion bod rhai o’r bobl hyn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth, gan fod rhai o’r unigolion yn destun ymchwiliad, ac yn amlwg rydym yn cydweithio â nhw ar hynny i gyd.
“Heblaw am hynny, byddwn yn dadlau eu bod wedi bod yn gydweithredol ac yn gymwynasgar iawn ynglŷn â digwyddiad sy’n un difrifol iawn.”
Mae Iran a Rwsia wedi defnyddio unigolion i gyflawni troseddau ar eu rhan ar dir y DU yn flaenorol.
Dywedodd llysgenhadaeth Iran yn Llundain ei bod yn "gwrthod yn bendant ac yn condemnio'n gryf y dyfalu di-sail a maleisus diweddar" am ran y wlad yn y digwyddiad yn RAF Fairford.
Mae'r pump dyn gafodd eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth yn cynnwys dyn24 oed o Camden, gogledd Llundain; tri dyn 23, 24 a 25 oed o Westminster, canol Llundain; a dyn 24 oed o Willesden, gogledd-orllewin Llundain.